Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd


Summary (optional)
Rydym yn defnyddio’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) fel canllaw ar sut rydym yn defnyddio tir yng Nghonwy (ar wahân i’r tir sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Eryri). Rydym hefyd yn ei ddefnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio.
start content

Diweddariad Rhagfyr 2023

Cynllun newydd

Fe wnaeth y Cyngor fabwysiadu’r Cynllun cyfredol ym mis Hydref 2013. Rydym wedi cynnal adolygiad llawn o’r Cynllun ac rydym bellach yn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).

Mae’n rhaid i’r Cyngor ddilyn 8 cam pan fyddwn yn llunio ein Cynllun newydd:

  • Cam 1 - Adroddiad Adolygu (wedi'i gwblhau)

    • Rydym wedi edrych ar Adroddiad Adolygu'r CDLl. Roedd yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen newid.

  • Cam 2 - Cytundeb Cyflawni (wedi'i gwblhau)

    • Rydym wedi llunio’r Cytundeb Cyflawni ac amserlen. Mae’r Pandemig Covid-19 wedi newid sut a ble rydym yn byw a’r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn teithio. Er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn gywir, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni adolygu’r gwaith hyd yma cyn i ni lunio’r Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd. Mae’r newid hwn yn golygu ein bod angen Cytundeb Cyflawni newydd.

  • Cam 3 - Darpar Safleoedd (wedi'i gwblhau)

    • Fe wnaethom ofyn i dirfeddianwyr, datblygwyr ac eraill awgrymu unrhyw safleoedd y gallem eu defnyddio. Cafodd 200 o safleoedd eu hawgrymu. Rydym wedi edrych ar bob un ohonynt ac wedi gwrthod 170 ohonynt. Gallwch weld pob un ohonynt ar y map.

  • Cam 4 - Cyfranogiad cyn i'r Cynllun gael ei archwilio gan y cyhoedd (wedi'i gwblhau)

    • Rydym wedi gwrando ar gymunedau, datblygwyr ac eraill i glywed eu barn ar sut i ddefnyddio tir.

  • Cam 5 - Strategaeth a Ffefrir (wedi'i gwblhau)

    • Mae hon yn pennu cynlluniau’r Cyngor a’i lefelau twf. Fe wnaethom ymgynghori gyda chi ar hyn yn 2019.

  • Cam 6 - Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd (ar y gweill)

    • Byddwn yn llunio’r cynllun terfynol ac yn ei wirio gyda’r cyhoedd cyn ei anfon at Lywodraeth Cymru. Gobeithiwn wneud hynny yn 2024.

  • Cam 7 - Cyflwyno ac Archwilio

    • Bydd Arolygydd yn archwilio’r cynllun a gyflwynwyd mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Ar ôl hyn, bydd yr Arolygydd yn llunio adroddiad ar ein cynllun.

  • Cam 8 - Mabwysiadu

    • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn mabwysiadu’r Cynllun yn seiliedig ar adroddiad yr Arolygydd.

Rydym yn edrych ar dystiolaeth pan fyddwn yn llunio'r Cynllun. Gallwch ei darllen ar ein tudalen sail tystiolaeth a phapurau pwnc.

Y camau nesaf

Mae llawer o newid wedi bod ers 2019. Mae cartrefi newydd wedi eu hadeiladu ac mae caniatâd cynllunio ar gyfer mwy. Rydym bellach yn awgrymu llai o gartrefi newydd ar gyfer y dyraniadau Safleoedd Strategol o’r Strategaeth a Ffefrir (cam 4):

  • Cae’r Ffynnon, Llanfairfechan

    • 400 o dai yn y Strategaeth a Ffefrir
    • 100-150 o dai yn cael eu hawgrymu bellach

  • Llanrhos

    • 250 o dai yn y Strategaeth a Ffefrir
    • 100-150 o dai yn cael eu hawgrymu bellach

  • Fferm Peulwys, Hen Golwyn

    • 450 o dai yn y Strategaeth a Ffefrir
    • 200-300 o dai yn cael eu hawgrymu bellach

  • Penloyn, Llanrwst

    • 200 o dai yn y Strategaeth a Ffefrir
    • 80-120 o dai yn cael eu hawgrymu bellach

Nid ydym yn meddwl y bydd safle cyflogaeth strategol Abergele wedi’i adeiladu cyn 2033 ac rydym wedi gorfod dod o hyd i safle newydd yn ei le: Chwarel Llanddulas, ar gyfer tir cyflogaeth a chyfleusterau trosglwyddo gwastraff.

Rydym yn edrych ar fwy o wybodaeth ar y safleoedd a faint o gartrefi newydd a thir ar gyfer swyddi newydd dros y misoedd nesaf. Mae hyn yn golygu y gall y nifer o gartrefi newydd a faint o dir rydym ei angen newid.

Roeddem eisiau gwybod eich barn chi am y safleoedd hyn cyn i ni lunio'r polisïau. Mae Cymorth Cynllunio Cymru (CCC) wedi cynnal Gweithdai Creu Lle i ni. Mae rhai heb eu cynnal eto a gallwch barhau i anfon eich sylwadau at Cymorth Cynllunio Cymru. Maent hefyd wedi llunio’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon.

Mae Swyddogion yn defnyddio’r wybodaeth o’r cam ychwanegol hwn. Os ydych yn dymuno gwrthwynebu’r safle mewn unrhyw ffordd ac yn dymuno i Lywodraeth Cymru weld hyn a’i gofnodi’n swyddogol, gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd yn 2024.

Os ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi i ddweud y gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd, yna anfonwch eich enw, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost at cdll-ldp@conwy.gov.uk.

Mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r Cynllun i’w archwilio gan y cyhoedd cyn cychwyn yr ymgynghoriad arno.

end content