Hanes

Adeiladwyd lein Dyffryn Conwy cyn belled â Llanrwst yn 1863 at orsaf bresennol Gogledd Llanrwst, a oedd yn cael ei hadnabod yn wreiddiol fel Llanrwst a Threfriw er mwyn darparu ar gyfer potensial twristaidd pentref ffynhonnau poblogaidd Trefriw. Yn 1868 estynnwyd y lein i gyrchfan mewndirol enwog Betws y Coed.

Erbyn 1879 roedd y lein wedi’i hestyn eto, gan deithio’r troadau 1 mewn 47 i fyny dyffryn hardd y Lledr, trwy’r twnnel un trac hwyaf ym Mhrydain, i gyrraedd tref chwarelydda Blaenau Ffestiniog. Roedd y rheilffordd yn cynnig ffordd werthfawr o gludo llechi toi i farchnad fyd-eang a oedd yn cyflym ehangu ar y pryd.

Yn ogystal, bu i ddiwydiannau cysylltiedig eraill, megis amaethyddiaeth a choedwigaeth, elwa ar ddefnydd y rheilffordd wrth fodloni anghenion economaidd yr ardal.

LMS Blaenau Ffestiniog
Saif Stanier 2·6·2T Dosbarth 3P Rhif 105 wrth y byffrau yn 1938, ar ôl gweithio trên bore o Landudno. Bu’r injans tanciau hyn yn gweithio’r lein tan 1954 er yr ychwanegid at eu gwaith ar y gangen gan yr injans Ivatt Dosbarth2MT llai o 1953, a oedd er gwaethaf eu dosbarthiad
pwer is, yn well injans at ei gilydd. Yn gyffredinol roedd yr injans hyn yn cael eu hystyried yn stemwyr gwael ac roedd yn rhyddhad i weithwyr Cyffordd Llandudno pan gawsant eu disodli.


Ffoto: H. Rogers Jones.  Casgliad Bill Rear

Tal-y-Cafn 1954
Stainer Dosbarth 3MT 2·6·2T Rhif 40133, a fu’n breswylydd yn sied Cyffordd Llandudno am amser hir, yn hwylio heibio’r signal Down Dista gan agosáu at Dal-y-Cafn gyda thaith prynhawn leol i Flaenau Ffestiniog.

Ffoto: H. Rogers Jones, Casgliad Bill Rear

Tal-y-Cafn 1954 Ivan Dosbarth 2MT 2·6·2T Rhif 41236, a fu’n breswylydd yn sied Cyffordd Llandudno am amser hir, yn tynnu ymaith o fyncer gorsaf Tal-y-Cafn yn gyntaf, gydag injan lwythi Dosbarth K dychwelyd yn gweithio’n ôl i iard Cyffordd Llandudno
.
Ffoto: H. Rogers Jones, Casgliad Bill Rear

Betws y Coed
Ivatt 2·6·2T Rhif 41236 yn tynnu i mewn i orsaf Betws y Coed gyda’r daith 12/25pm leol o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog ym mis Awst 1953.


Ffoto: Casgliad Bill Rear

Rhwng Llanrwst a Betws y Coed. 1953 Stainer Dosbarth 3MTT 2·6·2T Rhif 40133 yn gweithio trên canol bore leol o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog yn dilyn yr afon. Gallai’r dosbarth yma o injan ond gweithio trenau tri cherbyd yn ddiogel i fyny i’r gangen yn ystod misoedd yr haf, ac roedd hyd yn oed yr adeg hynny’n trethu’r injan i’r eithaf.



Ffoto: H. Rogers Jones, Casgliad Bill Rear

Par o drenau Dosbarth ‘20’ yn blaenori trên arbennig i Flaenau Ffestiniog yn dynesu at orsaf Gogledd Llanrwst ar ddiwrnod dathlu canmlwyddiant Rheilffordd Dyffryn Conwy – Gorffennaf 22ain 1979.


Ffoto: Hawlfraint  2001 D.Aston

Ffotograffiau uchod yn hawlfraint Bill Rear.