 |
|
|
Croeso i Daith Trên ar Lein Dyffryn Conwy o Arfordir Gogledd Cymru i Galon Eryri
|
|
| Mae lein Dyffryn Conwy, sy’n rhan o’r Rhwydwaith Rheilffyrdd
Cenedlaethol, yn rhedeg wrth ochr un o afonydd mawr Cymru, afon Conwy ac yn mynd yn ei blaen ar hyd glannau’r Lledr wyllt, aflonydd wedi iddi uno ag afon Conwy ym
Metws-y-Coed. |
|
|
|
O’ch cychwyniad yn Llandudno hyd nes y cyrhaeddwch Flaenau Ffestiniog mae amrywiaeth aruthrol o olygfeydd yn ymagor o flaen eich llygaid, o’r castell hanesyddol yng Nghonwy, drwy aber sy’n gyforiog o fywyd gwyllt, i lechweddau esmwyth sy’n ildio i greigiau urddasol wrth i’r trên groesi’r Lledr wrth draphont drawiadol
Gethin.
Fe gewch gipolwg ar dirweddau sydd petaent o fyd y tylwyth teg, castell mawreddog
Dolwyddelan o’r 12fed ganrif, chwareli a lonydd hynafol, coedwigoedd a chopaon uchel
Eryri cyn mynd i mewn i galon y mynydd gan ddod allan ychydig funudau’n ddiweddarach yn nhirwedd ddiwydiannol fawreddog a hanesyddol Blaenau Ffestiniog, wrth union galon diwydiant chwarelydda a chloddio
llechi
Cymru.
Mae lein Dyffryn Conwy, a hithau’n 27 milltir o hyd, yn cynnig un o’r profiadau rheilffordd prydferthaf ym Mhrydain.
Mae’r safle hwn yn gofyn bod gennych Adobe Acrobat Reader wedi’i osod ar eich Cyfrifiadur Personol er mwyn gallu gweld y dogfennau PDF.
Os nad yw Acrobat wedi’i osod yn eich Cyfrifiadur Personol cliciwch yma i lwytho’r fersiwn ddiweddaraf i
lawr. |
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|