 |
|
|
Deganwy
|
|
Mae’r gyrchfan hyfryd yma’n cynnig rhai o’r golygfeydd gorau o Eryri, Aber Afon Conwy a
Chastell
Conwy, ac ar draws Bae Conwy at Ynys Seiriol ac Ynys Môn.
Yn edrych ar draws o dref Conwy, gall rhywun weld y bryncyn uwchben Deganwy a oedd yn cael ei adnabod fel y Faerdre, ble mae adfeilion y castell gwreiddiol, a ddinistriwyd gan Lywelyn Fawr yn 1263, i’w gweld o
hyd. |
|
|
|
Adeiladwyd y castell cyntaf ar y safle hwn yn 1070 gan y barwn Normanaidd Robert o Ruddlan. Ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, cludwyd llechi toi ar drên o Flaenau Ffestiniog i gei Deganwy, i’r gogledd o’r orsaf bresennol a’u trosglwyddo i long hwyliau i’w hanfon i lawer o
wledydd. |
|
|
|
Heddiw mae Deganwy’n bentref preswyl ffasiynol gyda llawer o siopau hen bethau a hen drugareddau diddorol. Mae wedi ymglymu yn Llandudno gyda’r maes golff enwog yn gorwedd rhwng y ddau le. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|