Dolwyddelan

Yng nghanol harddwch annisgrifiadwy dyffryn Lledr saif pentref Dolwyddelan, dim ond munud o waith cerdded o’r orsaf. Mae eglwys fechan Sant Gwyddelan yn y pentref tawel a digyffwrdd hwn yn sicr yn haeddu ymweliad. Y tu mewn mae hen gloch Geltaidd y dywedir ei bod yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif yn crogi.

Tua milltir o’r pentref ar y ffordd fawr mae castell mawreddog Dolwyddelan. Wedi’i adeiladu yn y 12fed ganrif gan dywysog grymusaf Cymru, Llywelyn Fawr, roedd yn gwarchod bwlch strategol drwy’i deyrnas fynyddig o Sir Feirionnydd i Ddyffryn Conwy.

Mae Dolwyddelan yn fan cychwyn perffaith ar gyfer taith gerdded pa mor heini bynnag yr ydych.

Mae gan y pentref safleoedd gwersylla, lleoedd Gwely a Brecwast, tafarn a gwesty, yn ogystal â siop a Swyddfa Bost. Mae gan Eglwys Sant Gwyddelan, sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg, gloch Geltaidd y dywedir ei bod yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif.  Hawlfraint AHA2001


Cysylltau

MAP AC ARWEINLYFR RHODFA’R DYFFRYN CUDD
(Cliciwch yma)