 |
|
|
Cyffordd Llandudno
|
|
Saif Cyffordd Llandudno tua hanner ffordd rhwng Caer a Chaergybi ac mae’n gyfnewidfa rhwng Lein Dyffryn Conwy a’r
Rhwydwaith Rheilffyrdd
Cenedlaethol. Ar draws yr aber lydan saif Castell
Conwy, a adeiladwyd rhwng 1283 ac 1289 gan Edward I ac sy’n dal i oruchafu ar y golygfeydd panoramig aruthrol yn edrych tuag at fynyddoedd
Eryri.
O’r orsaf gellwch fynd am dro ar draws y bont dros yr afon i ymweld â’r castell, un o’r enghreifftiau mwyaf godidog o bensaernïaeth filwrol ganoloesol yn Ewrop i
gyd. |
|
|
|
Fel Safle Treftadaeth y Byd o Bwysigrwydd Ewropeaidd Arwyddocaol, mae gan Gonwy lawer o adeiladau hanesyddol, yn cynnwys
ty masnachwr o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ty tref ysblennydd o oes Elisabeth a’r
ty lleiaf ym Mhrydain, hyn i gyd yn ychwanegol at harbwr darluniadol a
phrysur. |
|
|
|
Ar yr aber, hefyd ychydig o waith cerdded o’r orsaf, mae Gwarchodfa Natur
Conwy, a agorwyd yn ddiweddar gan yr RSPB fel lloches i adar hirgoes ac adar
dwr.
Os digwydd fod gennych gariad at y sinema, mae cyfadeilad amlsgrîn
gerllaw. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|