Pont Rufeinig

Os dewch chi i lawr wrth y Bont Rufeinig fe ddewch wyneb yn wyneb â phrydferthwch syfrdanol cwm diarffordd Blaenau Dolwyddelan yn swatio yng nghysgod Moel Siabod. 

O’r fan hon dim ond ychydig o waith cerdded oddi ar y ffordd yw hi i Gastell Dolwyddelan, cadarnle i Lywelyn Fawr yn y 12fed ganrif.

Os ewch chi am dro i ben bwlch Crimea fe gewch olygfeydd eang dros Ffestiniog tuag at y Rhinogau a Bae Ceredigion.


Adeiladwyd Castell Dolwyddelan gan Lywelyn Fawr yn 1240.  Hawlfraint AHA2001 Mae Moel Siabod, 872m o uchder, yn ymgodi uwchlaw Dyffryn Lledr.  Hawlfraint AHA2001