Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dŵr Yfed


Summary (optional)
Rydym yn profi cyflenwadau dŵr Cyhoeddus a Phreifat. Yma byddwch yn dod o hyd i gyngor ar halogiad dŵr, y sefydliadau sy'n gyfrifol am ei lanhau a gorfodi, a manylion cyswllt i roi gwybod am ddigwyddiad.
start content

Beth yw cyflenwad dŵr preifat?

Mae cyflenwad dŵr preifat yn un nad yw'n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr. Gall ansawdd cyflenwadau dŵr preifat fod yn amrywiol.  Mae rhai’n cael eu trin yn ddigonol ac yn cael eu rheoli'n dda, ond gall eraill beri risg i iechyd eich cwsmeriaid oherwydd ansawdd y dŵr. Os ydych yn berchen ar gyflenwad preifat, neu'n ei ddefnyddio, mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o ansawdd y cyflenwad a'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ef.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych yn berchen ar fythynnod gwyliau, safleoedd gwersylla neu adeiladau bwyd masnachol eraill, neu’n eu rhedeg, sydd ar gyflenwad dŵr preifat, rhaid i chi sicrhau fod y dŵr yn ddiogel ac mae'n rhaid ei brofi o leiaf unwaith y flwyddyn. 

Er mwyn cadw eich cyflenwad dŵr preifat i weithio'n iawn a sicrhau bod y dŵr yn ddiogel ar gyfer eich cwsmeriaid, mae angen i chi gadw'r system gyflenwi yn lân ac mewn cyflwr da.  Mae pethau i'w hystyried yn cynnwys:  

  • sicrhau bod y ffynhonnell yn cael ei gwarchod rhag halogiad drwy anifeiliaid sy’n pori, neu ddeunyddiau sy'n cael eu golchi i lawr o fyny'r afon
  • gosod a chynnal triniaeth briodol sy'n gallu trin dŵr i ansawdd boddhaol yn gyson
  • sicrhau bod y dŵr yn cael ei ddiheintio'n ddigonol cyn ei ddefnyddio
  • gwneud yn siŵr bod y dŵr yn cael ei storio a'i ddosbarthu mewn ffordd sy'n osgoi halogiad ar ôl triniaeth a diheintio, ond cyn iddo gael ei yfed

Rhaid i'r awdurdod hefyd gynnal asesiad risg o bob cyflenwad dŵr preifat masnachol, lle codir tâl am hyn.

System rheoli diogelwch bwyd

Os byddwch yn paratoi ac yn darparu bwyd ar gyfer y cyhoedd, yna mae'n rhaid i chi sicrhau bod y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio cyflenwad dŵr preifat yn cael eu cynnwys o fewn eich system rheoli diogelwch bwyd a chofnodion o wiriadau’n cael eu cadw ar ffeil.  

Cyngor ac Arweiniad

Os hoffech drefnu i gael prawf ar eich cyflenwad dŵr preifat, llenwch ein ffurflen ymholiad ar-lein.

end content