Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Iechyd yr Amgylchedd Diogelwch bwyd Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd


Summary (optional)
Sut mae'r cynllun sgorio yn gweithio a sut i ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd siopau bwyd Conwy.
start content

Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd 2013 yn cyflwyno cynllun gorfodol i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid yn amlwg a rhoi sgôr hylendid i gwsmeriaid ar gais. Mae'r cynllun yn berthnasol i dai bwyta, tafarndai, caffis, siopau cludfwyd, gwestai, archfarchnadoedd, gwneuthurwyr a sipaubwyd eraill. 

Mae pob busnes yn cael sgôr hylendid yn dilyn arolygiad gan swyddog diogelwch bwyd o Gyngor Conwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Mae pob busnes yn cael sgôr yn dilyn arolygiad gan swyddog diogelwch bwyd. Mae hwn yn seiliedig ar ba mor dda y mae'r busnes yn bodloni gofynion y gyfraith hylendid bwyd ar y pryd. Mae'r asesiad yn seiliedig ar ystyriaeth o'r tair elfen ganlynol: 

  • pa mor lân mae'r bwyd yn cael ei drin - paratoi bwyd yn ddiogel, coginio, aildwymo, oeri a storio
  • cyflwr strwythur yr eiddo - glanweithdra, trwsio, cynllun, goleuo, awyru a chyfleusterau eraill
  • sut mae'r busnes yn rheoli'r hyn mae'n ei wneud, i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac fel y gall y swyddog fod yn hyderus y bydd safonau’n cael eu cynnal yn y dyfodol. 

Mae'r sgôr yn ymwneud â safonau hylendid y busnes bwyd yn unig - nid yw'n ymwneud ag ansawdd y bwyd neu safonau’r gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid. 

Beth yw'r gwahanol sgoriau?

Lefel y gydymffurfiaeth sydd yn pennu Sgôr Hylendid Bwyd busnes, sy'n amrywio o’r sgôr isaf '0' - Angen gwelliant ar frys i'r radd uchaf '5' - Da Iawn. Mae busnes yn cael un o'r sgoriau hyn:  

Llun Gwahanol Sgoriau Bwyd

Dylai pob busnes fod yn gallu cyrraedd y sgôr uchaf o 5. Er mwyn cael y sgôr uchaf, sef '5', mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda ym mhob un o’r tair elfen.  Mae’n debygol bod y rhai sydd â sgôr o '0' yn perfformio'n wael ym mhob un o’r tair elfen ac maent yn debygol o fod â hanes o broblemau difrifol. Pan na fydd busnes yn cyrraedd y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn esbonio i  berchennog neu reolwr y busnes pa welliannau sydd eu hangen. 

Cyhoeddi Sgoriau


Ar ôl arolygiad, bydd y sgôr yn cael ei lanlwytho gan yr awdurdod lleol ar wefan food.gov.uk.  Bydd sgôr o ‘5 – Da Iawn’ yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn cael ei lanlwytho gan eich awdurdod lleol.   Caiff sgoriau o 0 – 4 eu cyhoeddi 3-5 wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad er mwyn caniatáu amser i gyflwyno apêl.

Gall busnesau sy’n methu arddangos eu sgôr gael dirwy o £200.

Ddim yn hapus gyda'ch sgôr?

Apelio


Os nad ydych chi’n credu fod statws eich busnes yn deg neu os ydych yn dymuno trafod eich statws, cysylltwch â'r swyddog a wnaeth yr arolygiad yn y lle cyntaf.  Os nad ydynt yn gallu datrys y mater, gallwch apelio drwy lenwi'r ffurflen apêl. 

Mae'n rhaid apelio o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r busnes dderbyn yr adroddiad arolygu hylendid bwyd. Bydd yr apêl yn cael ei hystyried gan swyddog o'r awdurdod, nad oedd yn rhan o asesiad gwreiddiol y sgôr hylendid bwyd sy’n cael ei apelio. Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ynglŷn â’r apêl a rhoi gwybod i’r busnes ynglŷn â’r canlyniad o fewn 21 niwrnod i dderbyn yr apêl.  Yn ystod cyfnod y broses apelio, ni ddylai unrhyw sticer gael ei arddangos ac ni ddylid cyfeirio ato mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu, ar y wefan ac ati.

 

Hawl i ymateb


Mae gan fusnesau ‘Hawl i Ymateb’. Mae’r hawl hwn yn galluogi gweithredwr busnes bwyd i gyflwyno sylwadau ar y sgôr a roddwyd i’r busnes. Er enghraifft, efallai bod busnes yn dymuno cyhoeddi gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau anarferol a oedd ar waith yn ystod yr arolygiad a effeithiodd ar y sgôr. Mae’n rhaid cyflwyno’r sylwadau hyn yn ysgrifenedig yn y ffurflen Hawl i Ymateb safonol a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ynghyd â’r sgôr.

 

Gofyn am Arolygiad ail-sgorio


Os yw busnes wedi mynd i'r afael â’r holl faterion o ddiffyg cydymffurfio a godwyd yn yr adroddiad ar yr arolygiad, gallant wneud cais am ymweliad ail-sgorio.  Gellir gwneud cais am arolygiad pellach ac asesiad o safonau hylendid bwyd y sefydliad er mwyn ystyried a oes modd newid ei sgôr hylendid bwyd ar unrhyw adeg, yn amodol bod yr amodau canlynol wedi eu bodloni:

  • unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd cyfredol wedi cael ei phenderfynu;
  • bod y gweithredwr wedi hysbysu'r awdurdod bwyd o welliannau a wnaed i safonau hylendid yn y sefydliad;
  • yr awdurdod bwyd o'r farn ei bod yn rhesymol i arolygu ac asesu'r sefydliad yn dilyn y gwelliannau pellach sydd wedi cael eu gwneud;
  • y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol yn cael ei arddangos yn y sefydliad yn unol â gofynion adran 7 Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;
  • mae'r busnes wedi cytuno i sicrhau y bydd awdurdod bwyd yn cael mynediad i gynnal arolygiad o'r sefydliad at ddiben yr ail-sgorio.
  • mae'r busnes wedi talu costau rhesymol yr ail-sgorio, fel a bennir gan yr awdurdod bwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

I wneud cais am archwiliad ail-sgorio, llenwch y ffurflen gais Ail-sgorio ar-lein a thalu ar-lein.

Y gost gyfredol am arolygiad ail-sgorio yw £180

 

Cyhoeddi'r sgôr yn gynnar


Gall perchnogion busnes neu reolwyr ofyn i sgôr gael ei chyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apêl gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

 

Cysylltwch i gael cyngor:

E-bost: Diogelwchbwyd-Iechydodiogelwch@conwy.gov.uk

 

end content