Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Arolygon Diogelwch Bwyd


Summary (optional)
Ynglŷn ag arolygiadau hylendid bwyd a safonau bwyd.
start content

Sut mae’r arolygiad yn gweithio?

Rydym yn cynnal arolygiad diogelwch bwyd sy'n cwmpasu agweddau hylendid bwyd a safonau bwyd, er mwyn:

  • nodi ac atal risgiau i iechyd y cyhoedd,
  • sicrhau nad yw bwyd yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n camarwain y defnyddiwr.
  • ymchwilio toriadau posibl o reolau hylendid bwyd a deddfwriaeth safonau bwyd a chymryd camau yn ôl yr angen i gael busnesau i gydymffurfio â'r gyfraith,
  • cynnig cyngor ar arferion da. 

Mae gan Swyddogion Diogelwch Bwyd yr hawl i fynd i mewn ac arolygu safleoedd bwyd ar bob adeg resymol heb wneud apwyntiad, ac maent fel arfer yn dod heb rybudd ymlaen llaw.

Mae amlder ein hymweliadau yn amrywio rhwng bob 6 mis i bob 3 mlynedd, yn dibynnu ar y math o fusnes a’ch record diogelwch bwyd blaenorol.

Mae swyddogion yn cael eu hawdurdodi i arolygu’r adeiladau, arolygu bwyd, archwilio cofnodion (gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol), gallant atafaelu neu gadw bwyd, cymryd samplau a lluniau i'w defnyddio fel tystiolaeth.

Ar ôl yr Arolygiad

Unwaith y byddant wedi cwblhau eu harolygiad, bydd y swyddog arolygu’n trafod y canfyddiadau gyda'r person sy'n gyfrifol am yr adeilad. Byddant yn cynhyrchu adroddiad a'i anfon at weithredwr y busnes (fel arfer o fewn 14 diwrnod).

Bydd yr adroddiad yn amlinellu'r holl feysydd y mae'r busnes yn methu â chydymffurfio â nhw o ran deddfwriaeth diogelwch bwyd. Bydd hefyd yn amlinellu pa gamau y mae angen i weithredwr y busnes eu cymryd er mwyn cydymffurfio'n llawn â'r gyfraith.  

Gyda’r adroddiad fydd sgôr hylendid bwyd y busnes (lle bo'n briodol).  

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan na fydd arferion neu amodau'n foddhaol, byddwn yn ceisio gweithio gyda'r busnes i'w helpu i wella safonau a chydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd.  Fodd bynnag, os nad yw amodau yn cael eu gwella, neu mae perygl i iechyd y cyhoedd, efallai y bydd angen i ni gyflwyno hysbysiad statudol i weithredwr y busnes.  Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd sydd, ar gollfarn, yn gallu arwain at ddirwy neu garchar.

Ailymweliadau

Os bydd arolygiad yn dangos bod angen ar y busnes i gyflawni gwaith i wella safonau, efallai y bydd angen un neu sawl ymweliad dilynol.  Ni fydd eich sgôr hylendid bwyd yn newid ar ôl yr ymweliadau hyn oni bai eich bod wedi gwneud cais am ailsgoriad.

end content