Deall rôl a chyfrifoldebau'r Cymorthydd Cyntaf Pediatrig:
- Gallu asesu sefyllfa o argyfwng yn ddiogel a darparu gofal cychwynnol
- Deall pwrpas cofnodion a sut i gwblhau cofnodion sy'n ymwneud â salwch, anafiadau ac argyfyngau
- Bydd asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn cael eu gwneud yn ystod y cwrs er mwyn gwirio bod yr amcanion dysgu wedi eu cyflawni
Gallu rhoi cymorth cyntaf i faban ac i blentyn:
- sydd ddim yn ymateb ond sy'n anadlu'n arferol, gan gynnwys dadebru plant a babanod
- sydd ddim yn ymateb a ddim yn anadlu'n arferol
- sydd â rhwystr yn ei lwybr anadlu
- sy'n gwaedu'n allanol
- sydd ag anafiadau i esgyrn, cymalau a chyhyrau
Deall sut i adnabod arwyddion a symptomau, rhoi cymorth cyntaf brys i faban a phlentyn sydd â chyflwr meddygol cronig neu sy'n mynd yn sâl yn sydyn:
- Argyfwng crymangellau
- Argyfyngau diabetig
- Pwl o asthma
- Adwaith alergaidd
- Llid yr ymennydd
- Ffitiau gwres
- Crŵp
Deall sut i adnabod arwyddion a symptomau, rhoi cymorth cyntaf mewn argyfwng i faban a phlentyn sydd:
- yn profi effeithiau gwres ac oerfel eithafol
- wedi cael sioc drydan
- â llosgiadau neu sgaldiadau
- wedi cael ei wenwyno
- wedi cael ei frathu neu ei bigo
- â mân anafiadau, gan gynnwys toriadau, sgryffiniadau, lympiau a chleisiau, fflawiau bach a gwaedlif
- â chyflyrau sy'n effeithio ar y llygaid, y clustiau a'r trwyn
- ag anafiadau i'r pen ac i'r asgwrn cefn
- ag anaffylacsis
- yn dioddef o sioc
- bron â boddi
Dyddiadau'r cwrs:
- Hyd - 2 Ddiwrnod/O leiaf 12 awr gyswllt. I'w drefnu.
- Cost - £102 y pen
Dyddiad | Lleoliad Cwrs |
18 a 19 Medi 2018 |
Bron-y-Nant, Dinerth Road, Llandrillo yn Rhos, LL28 4YN |
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle ar un o’n cyrsiau, cysylltwch â ni.