Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Adfywio Sir Conwy

Adfywio Sir Conwy


Summary (optional)
start content

Mae Conwy yn y safle perffaith i fanteisio ar gyfleoedd economaidd rhanbarthol gweithgynhyrchu, ynni a digidol yng Ngogledd Cymru. Mae ein lleoliad canolog yn sicrhau y byddwn yn elwa ar fuddsoddiadau rhanbarthol, a Strategaeth Conwy yw datblygu ar y rhain ac ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig ar hyn o bryd o ran ein sectorau twristiaeth a bwyd cadarn. 

Mae strategaeth twf y Sir yn canolbwyntio ar gyflawni pum uchelgais:

  • Creu’r lleoliadau busnes mwyaf modern i gefnogi twf a denu busnesau newydd
  • Denu prif swyddfeydd / canolfannau rhyngwladol
  • Sefydlu presenoldeb AU
  • Datblygu economi gyda’r nos a chynnig twristiaeth y gaeaf
  • Hwyluso'r morlyn llanw a phrosiectau ynni adnewyddadwy eraill

Mae cyflawni’r uchelgeisiau mawr hyn yn galw am gydweithio agos a buddsoddiad o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ynghyd â gweledigaeth, dychymyg, uchelgais a ffyrdd newydd o weithio.

Mae gan Gonwy hanes blaenorol llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiectau mawr. Eisiau gwybod mwy?

E-bost: regen@conwy.gov.uk     

end content