Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Adain Cymorth Busnes - Hysbysiad Preifatrwydd

Adain Cymorth Busnes - Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
start content

Er mwyn i chi gael gwybodaeth a/neu gyngor gan Dîm Cymorth Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, byddwn yn cofnodi eich gwybodaeth bersonol.

Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r contract rhyngom.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yn y ffyrdd a ganlyn:

  • i’n helpu i ddelio â’ch ymholiad;
  • i roi mynediad i chi i gynnyrch a gwasanaethau perthnasol;
  • i gyfathrebu gyda chi;
  • i brosesu trafodion ariannol ar gyfer grantiau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â ni; ac
  • i’n galluogi i wella ansawdd ein gwasanaethau.

Mae’n bosib' y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i adrannau eraill y Cyngor at ddibenion dilysu cais am grant.

Mae’n bosib' y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond:

  • pan fo’n ofynnol dan y gyfraith; neu
  • pan mae’n cael ei ganiatáu fel arall dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Sylwer:

‘Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer gweithredu contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.  Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol.’ 

Heb eich gwybodaeth bersonol mae’n bosib' na fyddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth/cefnogaeth gywir i chi a/neu eich busnes.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Am chwe blynedd o’r dyddiad y daeth y gefnogaeth i ben, neu ar gyfer grantiau a roddir, saith mlynedd o ddyddiad defnyddio’r grant.

Eich hawliau gwybodaeth

I gael manylion llawn am eich hawliau gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

Mae gennych hawl i:

  • gael mynediad i’r data rydym yn ei gadw;
  • cywiro unrhyw anghywirdebau;
  • cyfyngu’r defnydd o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch os ydych wedi gwrthwynebu, tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio; a  
  • gofyn bod cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch chi, ar wahân i wybodaeth sy’n cefnogi ceisiadau am grant, yn cael eu dileu cyn y cyfnod a nodir uchod.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni:

Canolfan Fusnes Conwy
Lôn y Gyffordd
Cyffordd Llandudno
LL31 9XX 

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch gennym, mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content