Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Diogelwch Cymunedol – Hysbysiad Preifatrwydd

Diogelwch Cymunedol – Hysbysiad Preifatrwydd


Summary (optional)
Manylion sut y bydd Diogelwch Cymunedol (Conwy Diogelach) yn defnyddio'ch data i ddarparu ein gwasanaeth.
start content

Pwy ydym ni?

Mae’r Uned Diogelwch Cymunedol yn delio gyda’r materion canlynol:

  • Cwynion ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned
  • Cydlynu Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau
  • Caethwasiaeth Fodern     
  • Trosedd ac anhrefn
  • Adolygu Dynladdiadau Domestig

Pa wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu ac ar gyfer beth?

Mae’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu yn cynnwys:

  • enw, teitl ac enwau eraill unigolion, dyddiad geni, ffotograffau
  • cyfeiriad a manylion cyswllt fel rhif ffôn tŷ neu ffôn symudol, cyfeiriadau e-bost

Gall yr wybodaeth bersonol rydym ni’n ei phrosesu hefyd gynnwys data personol sensitif neu gategorïau data arbennig eraill fel:

  • euogfarnau troseddol,
  • tarddiad ethnig neu hiliol,
  • iechyd meddyliol a chorfforol
  • manylion anafiadau
  • meddyginiaethau/triniaethau a dderbyniwyd
  • data yn ymwneud â bywyd rhywiol a thueddfryd rhywiol

Mae’n bosibl y defnyddir yr wybodaeth at un neu fwy o'r dibenion canlynol:

  • i’n galluogi ni i gyflawni ein rhwymedigaethau a’n pwerau cyfreithiol a statudol, gan gynnwys swyddogaethau wedi’u dirprwyo
  • i weithredu gweithdrefnau diogelu cynhwysfawr er mwyn diogelu oedolion a phlant diamddiffyn rhag niwed neu anaf
  • i atal a chanfod twyll, llygredd a gweithgarwch troseddol ac i orfodi'r gyfraith yn ôl yr angen
  • i leihau trosedd ac anhrefn, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol

Byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon mewn trafodaethau gydag asiantaethau partner:

  • Grŵp Tasg Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Atal a Rhwystro (Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid)
  • Troseddwyr Cyson a Throseddwyr Eraill â Blaenoriaeth
  • Rheoli Troseddwyr Integredig
  • Gwybodaeth am Grwpiau Troseddau Difrifol a Threfnedig
  • Proffiliau Gangiau Trosedd a Chyd-droseddwyr
  • Adolygiadau Dynladdiadau Domestig
  • Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA)
  • Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth (MARAC)
  • Cyfarfodydd y Tîm Amlddisgyblaethol


Pam ein bod ni’n cael defnyddio’ch gwybodaeth?

Cawn ddefnyddio’ch gwybodaeth i ymgymryd â thasgau Awdurdod Cyhoeddus a wneir er budd y cyhoedd ac at ddibenion lleihau trosedd ac anhrefn.

Caiff y rhan fwyaf o’r data personol ei brosesu er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, sy’n cynnwys cyflawni ein swyddogaethau a phwerau statudol.

Dyma restr o’r Deddfau a’r Adrannau sy’n rhoi dyletswydd arnom ni i rannu gwybodaeth er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn:

  • adran 27 Deddf Plant (1989) – yn ei gwneud yn ofynnol i amrywiaeth o asiantaethau i rannu gwybodaeth gyda gofal cymdeithasol plant er mwyn diogelu plant sy’n dioddef niwed sylweddol neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol
  • adran 82 Deddf GIG (2006) – yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i gydweithio er budd iechyd a lles y boblogaeth
  • adran 251 Deddf GIG (2006) – yn sicrhau bod modd defnyddio gwybodaeth sy’n enwi cleifion ac sydd ei hangen i gefnogi gweithgareddau hanfodol y GIG heb ganiatâd y cleifion hynny
  • adran 17 Deddf Trosedd ac Anhrefn (1998) – yn nodi’r pŵer a roddir i amrywiaeth o asiantaethau i rannu gwybodaeth at ddibenion atal trosedd ac anhrefn
  • Defnyddir Protocol Gweithredu MAPPA i reoli troseddwyr rhywiol a threisgar
  • Mae trefniadau MARAC yn ymdrin â materion rhannu gwybodaeth er mwyn i amrywiaeth o asiantaethau ddarparu gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig
  • Deddf Galluedd Meddyliol (2005) a Chod Ymarfer (2007);
  • Deddf Gofal 2014, Adran 45 – yn cyfeirio’n benodol at rannu gwybodaeth


Gyda phwy fyddwn ni’n rhannu’ch gwybodaeth?

Byddwn yn rhannu data personol gydag asiantaethau partner a restrir isod. Mae gan y sefydliadau hyn rwymedigaeth i roi mesurau diogelwch priodol ar waith ac mae’n bosibl eu bod yn rheolyddion data yr ydym yn gweithio â nhw.

Os ydynt yn rheolyddion data, yna byddant yn atebol i chi’n uniongyrchol am y ffordd maent yn prosesu ac yn diogelu eich data personol.

Mae’r sefydliadau trydydd parti y byddwn yn rhannu data â nhw yn cynnwys:

  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig:
    • Cymdeithas Tai Cartrefi Conwy
    • Cymdeithas Tai Gogledd Cymru
    • Cymdeithas Tai Wales and West
    • Grŵp Cynefin
    • Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Adrannau mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y bo’n briodol


O ble rydym ni’n derbyn eich gwybodaeth?

Byddwn yn derbyn gwybodaeth o amryw o ffynonellau:

  • atgyfeiriadau gan asiantaethau partner, fel yr asiantaethau a nodir uchod, mewn perthynas ag unigolion mewn perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol, pobl ddiamddiffyn, diogelu
  • proffiliau a ddarperir gan ddadansoddwyr cudd-wybodaeth yr Heddlu
  • manylion digwyddiadau troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camau a gymerwyd gan asiantaethau, gwybodaeth y llys ynglŷn ag unigolion
  • gwybodaeth ynglŷn ag anghydfodau rhwng cymdogion a gwrthdaro o fewn cymunedau
  • dyddiaduron ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • ffurflenni enwebu gyda data personol yn ymwneud ag unigolion neu grwpiau mewn perygl o radicaliaeth. Lleoliadau penodol o weithgarwch unigolion
  • Gwybodaeth neu ddata gan yr Heddlu yn ymwneud ag unigolion neu grwpiau penodol
  • data a ddarperir gan safonau masnach, iechyd yr amgylchedd, treth y cyngor neu dai
  • nodiadau achos gwasanaethau iechyd
  • data personol a nodwyd mewn cofnodion cyfarfodydd

Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom ni i gadw data mewn perthynas â’n rhwymedigaethau statudol fel awdurdod cyhoeddus. 

Dim ond am y cyfnod sydd ei hangen y byddwn yn cadw'r wybodaeth. Bydd gwybodaeth nad oes ei hangen mwyach yn cael ei dileu neu ei dinistrio.

Cedwir yr holl gofnodion am y cyfnod cadw priodol yn unol â chanllawiau cadw’r Cyngor.

Sut caiff eich gwybodaeth ei chadw?

Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel ar weinyddwyr y cyngor ar ffurf electronig (dogfennau Word, cronfeydd data) sydd wedi'i reoli gan fynediad defnyddwyr awdurdodedig a chyfrineiriau.

Cedwir dogfennau papur mewn cypyrddau gyda chlo.

Caiff negeseuon e-bost eu rhannu yn ddiogel drwy ddefnyddio ‘egress switch’ neu drwy e-bost diogel gcsx / Heddlu Gogledd Cymru (pnn).

Eich Hawliau

Mae gennych chi nifer o hawliau o ran eich data personol, gan gynnwys yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar ôl i ni ofyn amdano. Gallwch hefyd ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi a gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir.

Am fwy o fanylion am eich hawliau gweler ein hysbysiad preifatrwydd

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content