Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Cwynion Corfforaethol - Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd Cwynion Corfforaethol


Summary (optional)
start content

Ar gyfer beth rydym yn defnyddio data?

I ddarparu Gwasanaeth Cwynion Corfforaethol ac i sicrhau bod eich cwyn yn cael ei basio i’r maes gwasanaeth perthnasol am ymateb, rydym yn cofnodi ac yn cadw gwybodaeth bersonol fel y bo’n briodol i amgylchiadau ac yn dibynnu ar natur y gŵyn, efallai bydd gofyn i ni rannu eich gwybodaeth gyda darparwyr gwasanaeth trydydd parti. Prosesir Data Personol gan y gwasanaeth yn unig pan fodlonir o leiaf un o’r amodau canlynol:

  • Mae cydsyniad gan Wrthrych y Data.
  • Mae’n angenrheidiol i berfformiad contract gyda Gwrthrych y Data.
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Mae angen hyn er mwyn diogelu diddordebau hanfodol Gwrthrych y Data neu unigolyn arall.
  • Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu mewn ymarfer o awdurdod swyddogol a roddir i'r Rheolydd Data.
  • Mae’n angenrheidiol at ddibenion diddordebau cyfreithlon a weithredir gan y Rheolydd Data neu drydydd parti.

Bydd yr amod perthnasol yn amrywio yn sgil amgylchiadau, ond yn bennaf, amod 5 yw’r prif reswm dros gadw gwybodaeth bersonol ac y caiff ei defnyddio gan y gwasanaeth.

Sut ydym ni’n trafod data personol?

Caiff y data ei ddefnyddio fel y disgrifir yn Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor ar eu gwefan: Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bydd y gwasanaeth yn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaeth diogelu data cymwys. Mae manylion o weithdrefnau diogelu data corfforaethol ar wefan y Cyngor: Diogelu Data

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.  Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.  

Pan fyddwch chi’n cysylltu â Chwynion Corfforaethol byddwn fel mater o drefn yn casglu gwybodaeth bersonol benodol gennych chi, er enghraifft: eich enw, eich rhifau ffôn, eich cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref a natur y gŵyn, ar adegau, efallai y bydd angen i ni, neu y byddwch chi'n dymuno cyflenwi gwybodaeth bersonol arall ond bydd y math o wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar natur y gŵyn / sylw a gallai hyn fod yn berthnasol i nifer o’n gwahanol wasanaethau.

Gall y Cyngor hefyd ddarparu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond lle bo angen hynny, naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith neu le y caniateir hynny dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Os nad yw eich cwyn yn cael ei datrys yn foddhaol, bydd y Cyngor yn rhannu gwybodaeth gyda swyddfa’r Ombwdsman hefyd, pan geisir y wybodaeth ganddynt.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros gael a phrosesu gwybodaeth bersonol?

Mae hyn yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad ein swyddogaethau.

Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw data personol?

Mae amserlenni cadw dogfennau Gwasanaethau Rheoleiddio a Thai yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â pha mor hir y byddwn yn cadw gwahanol fathau o wybodaeth, y flwyddyn bresennol a 2 yw’r cyfnodau cadw cwynion ar hyn o bryd. Pan rydym yn gwaredu gwybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn modd diogel.

Beth yw fy hawliau mewn perthynas â’m data personol?

Mae manylion llawn ar sut i wneud cais am ddata personol ar gael ar wefan y cyngor: Diogelu Data – Gwneud cais am eich data

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content