Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Gwasanaethau Cyllid Corfforaethol – Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth/swyddogaeth penodol

Gwasanaethau Cyllid Corfforaethol – Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth/swyddogaeth penodol


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu. Dylid gweld yr hysbysiad preifatrwydd hwn ochr yn ochr â hysbysiad preifatrwydd y Cyngor, y gellir ei weld ar:  www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysondebau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn sy’n benodol i wasanaeth yn berthnasol i:

  • Gwasanaethau Cyflogau.
  • Gwasanaethau Credydwyr.
  • Gwasanaethau Yswiriant a Hawliadau.


Gwasanaethau Cyflogau

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neuwrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd (CBSC)

Gwybodaeth a gasglwyd:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Ethnigrwydd
  • Anabledd/Anghenion Ychwanegol
  • Crefydd
  • Rhywioldeb
  • Manylion Contract
  • Gwybodaeth ariannol
  • Yswiriant Gwladol
  • P45 neu Ddatganiad Treth
  • Datganiad Pensiwn
  • Archwilydd Cyffredinol Cymru

Asiantaethau y gallwn rannu’r wybodaeth hon gyda nhw:

  • Cyllid a Thollau EM
  • Pensiynau Gwynedd / Pensiynau Clwyd

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:

Caiff gwybodaeth ariannol ei chadw am 6 mlynedd (a’r flwyddyn bresennol). Os bydd amodau grant yn nodi y dylid cadw’r wybodaeth am gyfnod hirach, caiff yr wybodaeth ei chadw yn unol â thelerau ac amodau corff ariannu’r grant.

Pwrpas dros Brosesu:

  • Darparu Gwasanaethau
  • Cynllunio / gwella gwasanaeth, atal a chanfod trosedd/twyll.

Gwasanaethau Credydwyr

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd (CBSC).

Gwybodaeth a gasglwyd:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion Contract
  • Gwybodaeth ariannol
  • Manylion CIS/Manylion Hunangyflogaeth

Asiantaethau y gallwn rannu’r wybodaeth hon gyda nhw:

  • Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru
  • Cyllid a Thollau EM
  • Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • Posibilrwydd i'r wybodaeth gael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:

Caiff gwybodaeth ariannol ei chadw am 6 mlynedd (a’r flwyddyn bresennol). Os bydd amodau grant yn nodi y dylid cadw’r wybodaeth am gyfnod hirach, caiff yr wybodaeth ei chadw yn unol â thelerau ac amodau corff ariannu’r grant. 

Pwrpas dros Brosesu:

  • Darparu Gwasanaethau
  • Cynllunio / gwella gwasanaeth, atal a chanfod trosedd/twyll.

Gwasanaethau Yswiriant a Hawliadau

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd (CBSC)

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad Geni
  • Swydd
  • Adrodd am ddamweiniau
  • Manylion y Digwyddiad
  • Gwybodaeth am Hawliadau
  • Gwybodaeth sy’n Ymwneud ag Euogfarnau
  • Adroddiadau/Cofnodion Iechyd
  • Gwybodaeth ariannol
  • Manylion Teulu
  • Cofnodion Cyflogaeth/Personél
  • Pan fyddwch wedi gofyn bod unigolion eraill yn cael eu cynnwys, gwybodaeth bersonol am yr unigolion hynny.

Asiantaethau/Sefydliadau y gallwn rannu’r wybodaeth hon gyda nhw:

  • Broceriaid Yswiriant
  • Cwmnïau Yswiriant a allai drosglwyddo eich gwybodaeth i’r Gofrestr Cyfnewid Hawliadau a Gwarantu, a gaiff ei rhedeg gan Insurance Database Services Ltd a/neu’r Gofrestr Gwrth-Dwyll a Lladrad, a gaiff ei rhedeg gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain.
  • Cynghorwyr proffesiynol, gan gynnwys ymhlith eraill, cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Llysoedd
  • Yr heddlu ac Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith eraill.
  • Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a/neu Sefydliadau Cymdeithasol/Lles
  • Asiantaethau Cyfeirio Credyd
  • Llywodraeth Ganolog a/neu Lywodraeth Lleol Eraill

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:

  • Byddwn yn cadw a phrosesu eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n angenrheidiol i fodloni’r pwrpas y cafodd ei chasglu ar ei gyfer yn wreiddiol. Gallai’r cyfnodau amser hyn fod yn destun cyfyngiadau cyfreithiol neu reoleiddiol, neu gallent fod wedi’u gosod i’n galluogi i reoli’r gwasanaeth.

Pwrpas dros Brosesu:

  • Trin Hawliadau
  • Darparu Gwasanaethau
  • Cynllunio Gwasanaethau/Gwella Gwasanaethau
  • Atal a Chanfod Trosedd a/neu Dwyll.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content