Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwyddedau Safle Amwynderau Cymunedol


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Penodol
start content

Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid

Trwyddedau Safle Amwynderau Cymunedol

Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018

Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Wasanaethau Cwsmeriaid a Chyllid - Trwyddedau Safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Mae hyn yn cynnwys prawf o le rydych yn byw a manylion cofrestru cerbyd. Mae hyn yn ofynnol i gael trwydded safle Canolfan Ailgylchu i gerbydau wedi’u rhestru o fewn y Polisi Canolfan Ailgylchu

Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol

Mae prosesu’n hanfodol yn unol â’r Polisi Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a Rheolau Safle. Os na fyddwch yn darparu gwybodaeth, ni fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i chi.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu a gwella’r gwasanaeth i chi a lle mae’n bosibl, fel nad yw’n eich adnabod.

Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.    Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.

Gwybodaeth a gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt

Manylion y cerbyd a manylion y ceidwad cofrestredig

Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth

  • Asiantaeth (Canolfan Ailgylchu'n rheoli'r Safle Amwynderau Dinesig) - Rhennir gwybodaeth fel eu bod yn ymwybodol o'r math o wastraff sy'n dod ar y safle. Mae’r drwydded hefyd yn cadarnhau fod y cwsmer yn breswylydd Sir Conwy.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

6 blynedd o’r dyddiad y daeth y ddarpariaeth gwasanaeth i ben, neu 2 flynedd ers dyddiad marwolaeth, pa un bynnag sydd gynharaf.

Eich hawliau gwybodaeth

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.

Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:

 

end content