Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg

Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg


Summary (optional)
start content

Ein Cyfrifoldebau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu, prosesu ac yn cadw ystod eang o wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth bersonol, er mwyn darparu gwasanaethau o fudd i chi.

Rydym yn gyfrifol am reoli’r wybodaeth sydd gennym ac yn nodi bod y wybodaeth hon yn bwysig i chi. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri a byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn deg, yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cwblhau contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).

Dylid darllen Hysbysiad Preifatrwydd Swyddfa'r Wasg ar y cyd gyda Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd i’w weld ar https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd.

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at bwrpasau cyfyngedig a bydd o hyd yn unol â’n cyfrifoldebau; pan mae sail gyfreithiol ac yn unol â'ch hawliau dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, a all gynnwys eich enw, sefydliad y cyfryngau, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad a’ch rhif ffôn at y pwrpasau canlynol:

  • anfon datganiadau’r wasg a datganiadau atoch;
  • anfon cyfathrebiadau brys gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;
  • rhannu gwybodaeth er budd y cyhoedd;

Efallai na fyddai modd darparu’r gwasanaeth hwn i chi os nad oes gennym wybodaeth ddigonol.

Rydym yn anelu at gadw eich gwybodaeth yn gywir ac yn ddiweddar. Gallwch ein helpu ni i wneud hyn ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni os yw’r wybodaeth a roesoch i ni, megis eich cyfeiriad, yn newid.

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Byddwn ond yn casglu, dal a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn saff ac ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth am hirach nag sydd raid. Byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel os ydych chi’n gadael eich sefydliad cyfryngau neu’n rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth mwyach.

Gyda phwy y gallwn rannu’r wybodaeth hon?

Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei rhannu, pan fo’n briodol ac yn berthnasol, gyda gwasanaethau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu bartneriaid allanol, at bwrpas ymateb i ymholiadau’r wasg neu i ddosbarthu datganiadau i’r wasg. Byddant ond yn cael mynediad i’ch gwybodaeth pan fo’n angenrheidiol i berfformio tasg er budd y cyhoedd.

Sut i gysylltu gyda ni

I arfer unrhyw rai o’ch hawliau o dan y ddeddf Diogelu Data, cysylltwch â ni:

Swyddfa'r Wasg
Bodlondeb
Ffordd Bangor
Conwy
LL32 8DU


Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch gennym, mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content