Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pwyllgorau a Chyfarfodydd Sut mae'r Cyngor yn gweithio

Sut mae'r Cyngor yn gweithio


Summary (optional)
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae penderfyniadau yn cael eu gwneud gan gynghorwyr lleol, neu gan swyddogion dan eu harweiniad. Caiff Cynghorwyr eu hethol gan breswylwyr lleol i gynrychioli ardal neu ward leol.
start content
  • Mae'r Cyngor Llawn (pob un o'r 55 o gynghorwyr) yn sefydlu'r gyllideb a'r polisïau cyffredinol. Mae cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, ac yn trafod y gwahanol ddewisiadau ar gyfer materion pwysig sy'n wynebu'r Fwrdeistref Sirol. Y Cyngor Llawn sy’n penodi Arweinydd y Cyngor; yna mae’r Arweinydd yn penodi aelodau eraill y Cabinet, ac yn clustnodi cyfrifoldebau (portffolios) i aelodau Cabinet.
  • Mae'r Cabinet yn gwneud penderfyniadau allweddol, ond gall hefyd ddirprwyo penderfyniadau i Aelodau Cabinet unigol, i bwyllgorau, i swyddogion, trefniadau ar y cyd neu awdurdodau eraill. Mae 10 aelod yn y Cabinet, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor ac mae gan bob aelod faes cyfrifoldeb neu bortffolio gwahanol. Mae’r Cabinet yn cyfarfod yn rheolaidd, oddeutu unwaith neu ddwywaith y mis.
  • Mae Pwyllgorau Craffu yn cynghori ar bolisïau ac yn dwyn y Cabinet i gyfrif ar faterion penodol. Gall Pwyllgorau Craffu hefyd adolygu gweithgareddau'r Cyngor neu faterion sydd o bryder lleol ehangach. Mae 4 pwyllgor craffu sy'n cael eu goruchwylio gan y Pwyllgor Craffu Cyllid ac Adnoddau.
  • Mae'r Pwyllgorau Cynllunio, Archwilio a Llywodraethu a Thrwyddedu yn gwneud penderfyniadau rheoli'r Cyngor.
  • Hefyd, mae Pwyllgor Safonau i hybu safonau uchel o ymddygiad ac i gefnogi Cynghorwyr er mwyn iddynt gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad.
  • Gall swyddogion (aelodau o staff) hefyd wneud penderfyniadau dan bwerau wedi'u dirprwyo iddynt, mae'r rhain wedi'u hamlinellu yn y Cynllun Dirprwyo yn rhan 8 y cyfansoddiad.


Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn egluro'r swyddogaethau a'r perthnasoedd o fewn y Cyngor yn fwy manwl.

Mae Canllaw i’r Cyfansoddiad yn darparu trosolwg o Gyfansoddiad y Cyngor ac yn egluro prif adrannau’r Cyfansoddiad mewn iaith glir a syml.

Mae cyfarfodydd y Cyngor llawn a rhai cyfarfodydd eraill yn agored i'r cyhoedd.

end content