Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pwyllgorau a Chyfarfodydd Cyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor

Cyfansoddiad Gwleidyddol y Cyngor


Summary (optional)
Mae gennym 55 o gynghorwyr sydd wedi'u hethol i gynrychioli 30 ward (ardaloedd lleol). Caiff Cynghorwyr eu dewis gan bobl leol mewn etholiadau, sy'n digwydd bob pum mlynedd.
start content

Mae Cynghorwyr yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Cyngor yn diwallu anghenion trigolion y fwrdeistref sirol a'r rhai sy'n gweithio ynddo. Maent yn gwneud hyn trwy osod y polisïau a'r strategaethau cyffredinol ar gyfer y Cyngor a monitro'r ffordd y gweithredir y rhain.

Mae'r Cyngor llawn o 55 cynghorydd yn gyfrifol am gytuno ar y prif bolisïau a blaenoriaethau, gan gynnwys cyllideb y Cyngor.

Mae gan Gynghorwyr ddyletswydd i'r fwrdeistref sirol gyfan, ond mae ganddynt ddyletswydd arbennig i'r bobl sy'n byw yn y ward (rhanbarth etholiadol) y cawsant eu hethol i'w gynrychioli, gan gynnwys y bobl na roddodd bleidlais iddynt.

Bydd ymgeiswyr etholiadau'r Cyngor naill ai yn cael eu henwebu gan bleidiau gwleidyddol neu'n sefyll fel aelodau annibynnol.

Cyfansoddiad gwleidyddol presennol y Cyngor yw:

  • Grŵp Annibynnol Cyntaf Conwy: 20
  • Ceidwadwyr: 10
  • Llafur: 9
  • Plaid Cymru a'r Blaid Werdd: 9
  • Democrataid Rhyddfrydol: 4
  • Annibynol Cynghreiriol: 2
  • Annibynnol (Heb ei Alinio): 1
end content