Eich Cynghorwyr

Caiff Cynghorwyr lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai'r Cyngor gyflawni ei amrywiol weithgareddau. Maent yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy'n byw yn y ward y mae ef neu hi wedi cael ei ethol i’w gwasanaethu am dymor.

Gallwch gysylltu â’ch Cynghorydd lleol mewn nifer o ffyrdd. Mae manylion cyswllt ar dudalen unigol y Cynghorydd.

Mae gan Gynghorwyr hawl i wahanol fathau o gyflogau, lwfansau a chostau yn dibynnu ar eu rolau a’u cyfrifoldebau.

Mae’n ofynnol i Gynghorwyr gofrestru unrhyw fuddiannau personol neu ariannol a allai fod ganddynt yn unol â’r 'Cod Ymddygiad' Gellir gweld y rhain drwy ddewis tudalen unigol Cynghorydd.

Mae'n ofynnol i’r Awdurdod Lleol sicrhau bod Cynghorwyr yn gallu llunio Adroddiad Blynyddol ar gyfer eu gweithgareddau gyda’r Cyngor yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mater i Gynghorwyr yw pa un a ydynt yn dewis manteisio ar y cyfle i lunio Adroddiadau Blynyddol ond os ydynt gellir eu gweld trwy ddewis tudalen unigol y Cynghorydd.

Aelodau Etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Hysbysiad Preifatrwydd