Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyfrifiad 2011


Summary (optional)
Mae Cyfrifiad 2011 yn rhoi gwybodaeth fanwl i ni am y boblogaeth gyfan, am ardaloedd daearyddol bach, ac am grwpiau bach o'r boblogaeth. Mae'n ffynhonnell hynod bwysig o wybodaeth am y boblogaeth ac am gartrefi.
start content

Mae'r tudalennau a ganlyn yn cynnwys gwybodaeth o Gyfrifiad 2011 am Fwrdeistref Sirol Conwy.

Mae'r tudalennau proffiliau ardal yn crynhoi'r prif ganlyniadau o'r Cyfrifiad – ar gyfer wardiau (rhanbarthau etholiadol), ardaloedd cynghorau cymuned ac ardaloedd cymharol.

Mae ffeiliau Microsoft Excel yn cynnwys gwybodaeth fanylach am wardiau, ardaloedd cynghorau cymuned a thref, Bwrdeistref Sirol Conwy, Cymru a Chymru a Lloegr wedi'u hatodi i'r tudalennau eraill fel a ganlyn:-

  • Pobl - y boblogaeth breswyl arferol; strwythur oedran; grŵp ethnig; hunaniaeth genedlaethol; gwlad enedigol; pasbortau a ddelir; yr iaith Gymraeg; crefydd; iechyd a darpariaeth gofal di-dâl; cyfnod preswylio yn y DU
  • Gwaith - gweithgarwch economaidd; diwydiant cyflogaeth; grwpiau galwedigaeth; oriau a weithiwyd; cymwysterau a myfyrwyr; dull teithio i'r gwaith; a dosbarth economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Cenedlaethol
  • Aelwydydd a threfniadau byw - cyfansoddiad aelwydydd; trefniadau byw; statws briodasol a phartneriaeth sifil; un rhiant sydd â phlant dibynnol; plant dibynnol a gwaith oedolion; sefydliadau cymunedol; ac iaith yr aelwyd
  • Tai a chyfleusterau - lle mewn aelwydydd a mathau llety; deiliadaeth aelwydydd; ystafelloedd a gwres canolog; a pherchenogaeth ceir

Gellir defnyddio'r ystadegau hyn dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Ffynhonnell: Ystadegau Cyfrifiad 2011, Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol © Hawlfraint y Goron 2013

Mae data hefyd ar gael ar wefan Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk

Gweler hefyd

end content