Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Cyfrifiad


Summary (optional)
Mae prif ganlyniadau’r cyfrifiadau diweddaraf i'w cael yn yr adran hon o'n gwefan, yn cynnwys crynodeb o ddata am bobl, aelwydydd a threfniadau byw, gwaith a thai/cyfleusterau o Gyfrifiadau 2011 a 2001; proffiliau ardal ar gyfer 1991; gwybodaeth am Gyfrifiadau o flynyddoedd cynharach.
start content

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfrif ei phoblogaeth bob 10 mlynedd. Mae'r cyfrifiad hwn yn nodi prif nodweddion y boblogaeth (oed, rhyw, diwylliant, iechyd, ac yn y blaen), aelwydydd, patrymau gweithio a rhywfaint o wybodaeth am dai.

Mae crynodeb o ddata Cyfrifiad 2011 ar gael ar y tudalennau hyn ar gyfer Conwy ac etholaethau ac ardaloedd cynghorau cymuned yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae data Cyfrifiad 2001 hefyd ar gael, ac mae gennym broffiliau ardaloedd Cyfrifiad 1991.

Ceir hefyd rhywfaint o wybodaeth am ddata Cyfrifiadau'r gorffennol yn yr adran Cyfrifiadau blynyddoedd eraill.

Nid yw'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion ffurflenni cyfrifiad unigol, gan fod y rhain yn gyfrinachol am 100 mlynedd.  Y cyfrifiad diweddaraf ar gyfer gallu gweld y ffurflenni yw Cyfrifiad 1911.  Mae'r Adran Cyfrifiadau blynyddoedd eraill yn rhoi'r manylion sut gallwch weld y rhain.

Mae data hefyd ar gael ar wefan Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk

Gweler hefyd

end content