Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol o 6pm ar 7/12/17 yn effeithio ar ein gwasanaethau rhyngrwyd, gan gynnwys gwefannau ac e-bost.

Tai ym Mwrdeistref Sirol Conwy - bwletin ymchwil


Summary (optional)
Mae'r monitor yn edrych ar wybodaeth ystadegol allweddol am dai ym Mwrdeistref Sirol Conwy, yn cyflwyno'r data diweddaraf, y cyd-destun hanesyddol ac yn darparu rhai sylwadau ar yr hyn mae'r data'n ddangos. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys cyflenwad tai, galw am tai, costau tai a fforddiadwyedd a proffilau ardaloedd ar gyfer ardaloedd marchnad tai lleol.
start content

Dyma'r bwletin diweddaraf mewn cyfres a fydd yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn gan yr Uned Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol. Ymysg pethau eraill, caiff ei ddefnyddio i gefnogi ein Strategaeth Tai Lleol. Mae'n diweddaru'r ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd ym monitor Mehefin 2014. Bydd rhagor o ddata yn cael ei ychwanegu at y bwletin fel y bydd ar gael.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r bwletin ymchwil (Mehefin 2015) (PDF, 2.1Mb)

Penawdau

  • Mae yna 56,650 annedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
  • Mae dros draean o gyfanswm y stoc tai yn eiddo ar wahan ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac mae hyn yn uchel iawn o'i gymharu â ffigurau cenedlaethol.
  • Ym Mawrth 2014 roedd 6,553 o anheddau yn y sector tai cymdeithasol. Roedd hyn yn 127 am bob 1,000 o aelwydydd, a oedd yn sylweddol is na lefel Cymru-gyfan o 175 ar gyfer pob 1,000 o aelwydydd. Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy gyfran lawer uwch o dai gwarchod a thai gofal ychwanegol yn ei stoc tai cymdeithasol na chyfartaledd Cymru. Roedd ennill net o 47 annedd tai cymdeithasol rhwng Mawrth 2013 a Mawrth 2014.
  • Mae llai na 15% o’r stoc tai cymdeithasol yn llety un-ystafell wely, sy'n cyfyngu ar y cyfleoedd i denantiaid symud i eiddo llai os ydynt yn cael eu heffeithio gan y cap ar fudd-daliadau tai oherwydd tanfeddiannu eu llety presennol (sef y ‘dreth ystafell wely’).
  • Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae’r gyfradd gwblhau cyfartalog ar gyfer anheddau newydd ac addasiadau wedi bod tua 285 uned y flwyddyn. Efallai nad yw cyfraddau adeiladu newydd wedi cadw i fyny â'r galw.
  • Mae lefelau rhentu cymdeithasol cymharol isel o fewn y farchnad dai ym Mwrdeistref Sirol Conwy a lefelau uwch na'r cyfartaledd o rentu preifat a pherchnogaeth eiddo (yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n berchen ar eu cartrefi’n gyfan gwbl).
  • Cyfanswm nifer yr anheddau rhentu cymdeithasol yr un fath ag ym mis Mawrth 2004.
  • Mae gan BS Conwy gyfran uwch o dai amlfeddiannaeth (TA) yn ei stoc dai na'r cyfartaledd cenedlaethol, ond cyfradd is o TA trwyddedig. Dim ond 15.2% o’i 1,400 o dai amlfeddiannaeth y mae'r Fwrdeistref Sirol wedi’i drwyddedu erbyn Mawrth 2014, ond ar draws Cymru mae 39.4% o Dai Amlfeddiannaeth wedi eu trwyddedu.
  • Yn 2013 roedd 51,650 aelwyd ym Mwrdeistref Sirol Conwy. Mae disgwyl i niferoedd aelwydydd godi o 2,400 (4.6%) rhwng canol 2013 a chanol 2023. Disgwylir i faint cyfartalog aelwydydd ostwng o 2.19 i 2.15.Y ffactor mwyaf yn y newid yw’r twf disgwyliedig yn nifer yr aelwydydd ag un o bobl.
  • Mae'r rhan fwyaf o aelwydydd ag un o bobl yn bensiynwyr sy'n byw ar ben eu hunain. Yn 2013 oedd 9,050 o aelwydydd pensiynwyr unigol  ym Mwrdeistref Sirol Conwy – roedd hyn yn 17.5% o'r holl aelwydydd, a 51% o'r holl aelwydydd ag un o bobl. Fel mae disgwyliadau hyd oes yn cynyddu a'r genhedlaeth lle cafodd llwyth o fabanod eu geni ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn cyrraedd oed pensiwn gallwn ddisgwyl gweld y nifer o aelwydydd pensiynwyr unigol yn cynyddu.
  • Ar gyfer pob blwyddyn ers Ebrill 2007 (y dyddiad dechrau ar gyfer y cynllun datblygu lleol presennol) mae’r ddarpariaeth o anheddau newydd wedi gostwng yn is na'r ffigwr blynyddol sydd ei angen i gyrraedd y gofyniad a nodwyd o 6,800 o anheddau ychwanegol erbyn 2022. Yn yr 8 mlynedd i Ebrill 2015 dim ond 2,136 o anheddau ychwanegol sydd wedi’u darparu – os byddai’r gofyniad hwn yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws y cyfnod hwnnw, dylai’r ffigwr hynny fod yn nes at 3,600. Mae hynny'n ddiffyg o tua -1,500 neu -41% dan targed.
  • Mae nifer yr ymgeiswyr ar y rhestr aros ar y cyd CBSC Conwy / Cartrefi Conwy wedi tueddu i gynyddu dros y pum mlynedd ddiwethaf hyd yn oed ar ôl gostyngiadau amlwg mewn niferoedd o ganlyniad i ôl-adolygiadau o’r gofrestr ar ddiwedd bob blwyddyn.
  • Yn Ebrill 2015 roedd 85 o aelwydydd ar y gofrestr Camau Cyntaf.  Mae'r mwyafrif o aelwydydd sydd wedi gwneud cais Camau Cyntaf yn cynnwys plant (60%) – llawer uwch na chyfartaledd Conwy ar gyfer bob aelwyd, lle mae dim ond 24.1% o aelwydydd yn cynnwys plant. Nid oes gan dros draean o’r aelwydydd a ymgeisiodd eu haelwydydd eu hunain ar hyn o bryd ac maent yn byw gyda ffrindiau neu deulu.
  • Syrthiodd nifer yr achosion digartrefedd o'u brig yn 2004-05 hyd at ddechrau 2010. Dechreuodd niferoedd godi eto drwy 2010-12, ond started to fall eto yn 2012, ond ers hynny mae wedi bod yn cynyddu, sy'n dilyn y duedd ledled Cymru.
  • Ar y cyfan, mae Bwrdeistref Sirol Conwy yn tueddu i fod â chyfradd is o ddigartrefedd na chyfartaledd Cymru.
  • Fodd bynnag, mae cyfradd uwch o lawer na chyfartaledd Cymru o aelwydydd digartref sy’n byw mewn llety dros dro er bod y bwlch wedi dechrau cau yn y pedair blynedd ddiwethaf. Mae'r data diweddaraf ar gael (Rhagfyr 2014) yn dangos bod y gyfradd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy yn is na'r lefel yng Nghymru am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd, ond nid yw’n hysbys eto os fydd hyn yn cael ei gynnal dros gyfnod hirach.
  • Mae 50% yr holl aelwydydd mewn llety dros dro â phlant dibynnol. Mae’r gyfradd ar gyfer teuluoedd digartref gyda phlant sy’n byw mewn llety dros dro wedi bod yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer y mwyafrif o'r deng mlynedd diwethaf, er ei fod wedi dangos tuedd sylweddol ar i lawr yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf.
  • Gellid categoreiddio tua 2,200 aelwyd yn y Fwrdeistref Sirol fel bod wedi’u gorboblogi o dan y diffiniad pob-ystafell, a thua 1,400 o dan y diffiniad ystafelloedd gwely. Mae cyfraddau gorboblogi ychydig yn is nag ar draws Cymru gyfan ac yn sylweddol is na lefelau Cymru a Lloegr.
  • Mae’r prisiau tai ar gyfartaledd ym MS Conwy wedi syrthu o -2.6% yn y flwyddyn ddiwethaf – caiff y cynnydd cenedlaethol diweddar mewn prisiau tai a adroddwyd yn y cyfryngau ei gymell i raddau helaeth gan y cynnydd prisiau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.
  • Ar lefel canolrifol, y gymhareb ar gyfer incwm a chostau tai ym Mwrdeistref Sirol Conwy yw 1:6:25. Hyd yn oed gyda blaendal o 20% – sy’n dod â’r gymhareb i lawr i 1:5.0 – mae tai am bris canolrif allan o gyrraedd pobl gyda’r incwm aelwyd cyfartalog.
  • Yn 2014/15 roedd lefelau rhent wythnosol cyfartalog tai cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Conwy tua £1.64 yn uwch nag ar draws Cymru gyfan. Ers y flwyddyn flaenorol, cododd rhenti ar oddeutu yr un raddfa a’r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Nifer y rhai sy'n hawlio budd-dal tai wedi tueddu i fod ar i lawr yn gyffredinol, ac ym mis Chwefror 2015 roedd cyfanswm y nifer sy’n derbyn budd-dal yn 1.5% yn is na’r flwyddyn flaenorol.
  • Mae cyfran y rhai sy'n derbyn budd-daliadau tai sy'n byw o fewn y sector rhentu preifat yn llawer uwch ym Mwrdeistref Sirol Conwy nag ydyw ar draws y wlad yn ei chyfanrwydd, ac mae’r gyfran hon wedi bod yn codi’n raddol dros y chwe blynedd diwethaf.
  • Ym mis Chwefror 2015, lleihawyd taliadau budd-dal tai ar gyfer 547 o unigolion o ganlyniad i’r cymhorthdal ystafell sbâr / treth ystafell wely. Roedd hyn yn cynnwys 12.0% o'r holl dderbynwyr budd-dal tai o fewn y sector rhentu cymdeithasol – nid yw'r gostyngiad yn berthnasol i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
  • Mae'r ffigurau cyntaf ar gyfer y cynllun newydd i leihau treth y cyngor yn dangos gostyngiad yn y nifer o hawlwyr rhwng diwedd yr hen drefn a chyflwyno’r drefn newydd, ac mae’r duedd yn ymddangos i fod y parhau i fynd ar i lawr.
  • Er bod nifer y camau meddiant morgais yn dangos tuedd tuag i lawr am bum blwyddyn, nid yw camau meddiant landlord (yn erbyn tenantiaid o eiddo wedi’u rhentu) wedi gweld yr un gostyngiad parhaus – efallai o ganlyniad i newidiadau mewn hawl budd-daliadau tai a phrosesau talu.
  • Mae gan Fwrdeistref Sirol Conwy gyfran is o eiddo ym mandiau treth cyngor A a B na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae hyn yn awgrymu bod cyfran lai o eiddo gwerth isaf o fewn y stoc anheddau nag a geir ar draws Cymru gyfan.

Diweddariad nesaf - yr Hydref 2017.

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw wybodaeth ystadegol arall rydych yn credu y byddai'n ddefnyddiol ei chynnig ar y wefan hon.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy