Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymrwymiad cydraddoldeb ac amrywiaeth


Summary (optional)
Fel Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Chonwy rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb. Fel cyflogwr, rydym hefyd wedi ymrwymo i greu Awdurdod sy’n gwneud defnydd llawn o dalentau, sgiliau a phrofiad staff presennol a staff posibl.
start content

Ein nod yw i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod yn dda am bopeth rydym yn ei wneud ac i’r ystod lawn o wasanaethau rydym yn eu darparu fod o ansawdd uchel. Rydym hefyd am fod yn sefydliad sy'n elwa o amrywiaeth ein cymuned. I wireddu’r nod hwn, mae’n rhaid i ni gydnabod a gosod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolbwynt i’n rhaglen. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd fel Awdurdod, er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl Conwy, gan gynnwys y bobl fwyaf diamddiffyn. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithredu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Dyma ein prif amcanion o safbwynt cydraddoldeb:

  • Sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei gynnwys yn ein polisïau a’n harferion
  • Cynnwys y Cyhoedd a’n Gweithwyr wrth asesu effaith wirioneddol neu effaith bosibl ein polisïau a’n harferion o ran dileu gwahaniaethu
  • Gwella’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau a datblygu ein polisïau
  • Sicrhau triniaeth deg yn y broses recriwtio ac o ran cyflogaeth
  • Adolygu cynnydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol yn barhaus
  • Sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu'n anfwriadol ar sail Hil, Anabledd, Rhyw, Tueddfryd Rhywiol, Crefydd a Chred, Oed, Addasu Rhyw, Priodas neu Bartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd neu Famolaeth, y Gymraeg neu Hawliau Dynol.
end content