Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sut i Bleidleisio


Summary (optional)
Pleidleisio yw’r sail ar gyfer cyfranogiad pobl mewn democratiaeth. Wrth y blwch pleidleisio y cewch chi leisio’ch barn ynglŷn â phwy sy’n eich cynrychioli yn lleol ac yn genedlaethol, yn penderfynu a gweithredu ar eich rhan.
start content

Pleidleisio'n bersonol

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am i 10pm ar ddiwrnod pleidlais, ac fel arfer maent mewn adeiladau cyhoeddus. Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio drwy'r post yn ystod yr wythnosau cyn yr etholiad. Bydd y manylion pleidleisio i gyd ar y cerdyn, gan gynnwys lleoliad eich gorsaf bleidleisio.

Mae’n helpu staff yr orsaf bleidleisio os ewch â'r cerdyn gyda chi i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod ond gallwch bleidleisio hebddo.

Os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio fe allwch ddewis pleidleisio drwy’r post, neu ofyn i unigolyn yr ydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Gwyliwch y ffilm fer hon am beth i’w ddisgwyl pan ewch i orsaf bleidleisio.



Pleidleisio drwy'r post

Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch bleidleisio trwy’r post. Mae pleidlais bost yn golygu bod papurau pleidleisio yn cael eu hanfon atoch cyn yr etholiad. Bydd angen i chi lenwi'r papurau pleidleisio a’u hanfon yn ôl yn yr amlen radbost a ddarparwyd. Rhaid i ni dderbyn eich pleidlais drwy'r post cyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Gall unrhyw un ofyn i bleidleisio drwy’r post heb orfod rhoi rheswm.

I wneud cais am bleidlais bost:

  • Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol i lawrlwytho’r ffurflen. Ei hargraffu, ei llenwi a’i dychwelyd i ni:

    Etholiadol,
    Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
    Blwch Post 1,
    Conwy,
    LL30 9GN

  • Ffonio’r swyddfa Gofrestru Etholiadol ar 01492 576051  a gofyn am ffurflen.

Gwyliwch y ffilm fer hon am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn pleidleisio drwy’r post.



Pleidleisio drwy ddirprwy

Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch bleidleisio drwy ddirprwy. Ystyr pleidlais drwy ddirprwy yw penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan.

Os ydych yn dioddef o salwch neu anabledd hirdymor neu bod gennych ymrwymiadau gwaith, gallwch ofyn am bleidlais absennol barhaol ar gyfer pob etholiad.

I gael pleidlais trwy ddirprwy ar gyfer un etholiad mae'n rhaid i chi roi rheswm penodol, e.e. byddwch ar eich gwyliau neu ni fyddwch gartref oherwydd eich gwaith.

I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy fe allwch un ai:

  • Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol a lawrlwythwch y ffurflen gywir. Fe fydd hyn yn dibynnu ar pam na allwch bleidleisio yn bersonol. Argraffwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni:

    Etholiadol
    Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
    Blwch Post 1
    Conwy
    LL30 9GN

  • Ffonio’r swyddfa Gofrestru Etholiadol ar 01492 576051 a gofyn am ffurflen.

Gwyliwch y ffilm fer hon am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn pleidleisio drwy ddirprwy.

end content