Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Atal post a galwadau ffôn sgrwtsh

Atal post a galwadau ffôn sgrwtsh


Summary (optional)
Manylion sut i gofrestru ar lein neu dros y ffôn er mwyn stopio post a galwadau ffôn marchnata uniongyrchol nad oedd eu heisiau.
start content
Cofrestrwch i beidio â chael Post Sgrwtsh
Ymweliad â'r Safle

Post sgrwtsh cyfeiriedig

Gwasanaeth rhad ac am ddim a gafodd ei sefydlu a'i ariannu gan y diwydiant post uniongyrchol yw'r Mailing Preference Service (MPS) a hynny er mwyn i ddefnyddwyr gael tynnu eu henwau oddi ar restrau'r diwydiant, neu eu hychwanegu at y rhestrau. Mae'r MPS yn gallu tynnu eich enw oddi ar hyd at 95% o restrau Postio Uniongyrchol. Ni fydd yn atal post sydd wedi ei anfon o wledydd tramor, post digyfeiriad, neu bost wedi ei gyfeirio at "The Occupier".


Post sgrwtsh digyfeiriad

Mae'r Direct Marketing Association (DMA) yn gallu darparu cyngor ar sut i leihau swm y post digyfeiriad y byddwch yn ei dderbyn.

Direct Marketing Association (UK) Ltd
DMA House
70 Margaret Street
London,
W1W 8SS.

Ffacsys marchnata di-ofyn

Cofrestr sy'n galluogi busnesau (ac unigolion, os ydynt yn dymuno gwneud hynny) i ddewis peidio â derbyn ffacsys gwerthu neu farchnata di-ofyn yw'r Fax Preference Service (FPS). Mae'n ofyniad cyfreithiol nad yw cwmnïau'n anfon ffacsys o'r fath i rifau sydd wedi'u cofrestru ar y FPS.


Taflenni digyfeiriad y bydd y Post Brenhinol yn eu dosbarthu

I roi terfyn ar daflenni heb gyfeiriad y bydd y Post Brenhinol yn eu dosbarthu, dylech ysgrifennu at:

Royal Mail Door to Door Opt Out,
Room 130
Wheatstone House
Faraday Rd
Swindon
SN3 5JW

Galwadau gwerthu di-ofyn dros y ffôn

Cofrestr sy'n galluogi unigolion i ddewis peidio â derbyn galwadau ffôn gwerthu neu farchnata di-ofyn yw'r Telephone Preference Service (TPS). Mae'n ofyniad cyfreithiol nad yw cwmnïau'n gwneud galwadau o'r fath i rifau sydd wedi'u cofrestru ar y TPS.

end content