Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Safonau'r Gymraeg

Safonau'r Gymraeg


Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi mabwysiadu'r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y bydd yn darparu ei wasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
start content

Mae disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel pob Cyngor arall yng Nghymru, gydymffurfio Safonau'r Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg (gellir eu gweld isod).

Pwrpas y Safonau yw:

  • rhoi mwy o eglurder i sefydliadau ar eu dyletswyddau am yr iaith Gymraeg
  • rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg
  • sicrhau mwy o gysondeb o wasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd.

Mae'r dyletswyddau sy'n deillio o'r safonau yn golygu na ddylai sefydliadau, fel y Cyngor, drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg (gan ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd).

Mae Safonau’r Gymraeg yn disodli Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor a gymeradwywyd gyntaf gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 23 Gorffennaf 1997, ac a ddiwygiwyd ar 14 Mai 2004 ac yna ar 23 Ebrill 2009.

Mae Safonau’r Gymraeg yn cael eu gosod o dan bum prif Safon:

  • Safonau Cyflenwi Gwasanaethau - Yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau. Eu bwriad yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg, neu i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Safonau Llunio Polisi - Mae'r Safonau hyn yn gofyn i swyddogion ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau polisi yn ei gael ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Safonau Gweithredu - Mae'r Safonau hyn yn ymdrin â'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol gan y Cyngor ac yn hyrwyddo'r cysyniad o weithle dwyieithog, gan roi hawliau ieithyddol i weithwyr y Cyngor wrth dderbyn eu gwasanaeth Adnoddau Dynol.
  • Safonau Hybu - Mae'r Safonau hyn yn gofyn i Awdurdod Lleol fabwysiadu Strategaeth Hybu sy'n nodi sut mae'n bwriadu hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal ddaearyddol y mae'n gweithredu o'i mewn; bydd hynny'n cynnwys cydweithio â phartneriaid allweddol.
  • Safonau Cadw Cofnodion - Mae'r Safonau hyn yn delio gyda systemau cadw data a chofnodion am rai o'r safonau eraill.


Cwynion Iaith

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch weithdrefn gwyno'r Cyngor ar y dudalen hon.

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg.

end content