Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Parcio, ffyrdd a theithio Ffyrdd a Phalmentydd Gwaith mawr i wella diogelwch ar y ffyrdd

Gwaith mawr i wella diogelwch ar y ffyrdd


Summary (optional)
start content

Cyllid Llywodraeth Cymru

Rydym yn dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal holl waith mawr i wella diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r holl gynghorau yng Nghymru yn cystadlu am gyfran o’r cyllid hwn, ac fel arfer mae bob cyngor wedi’u cyfyngu i dri chais y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwelliannau a fydd yn lleihau anafusion mewn lleoliadau gyda hanes o wrthdrawiadau. Cesglir y wybodaeth am y gwrthdrawiadau hyn gan yr Heddlu ac o gronfa ddata cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Bob blwyddyn, rydym yn dadansoddi gwrthdrawiadau sydd wedi achosi anafusion ar draws ffyrdd y Sir dros y tair blynedd diwethaf. Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth i ni flaenoriaethu ein tri chais am gyllid ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae’r broses hon yn seiliedig ar y dystiolaeth o’r gronfa ddata genedlaethol, yn hytrach na cheisiadau gan gymunedau.

Mân waith i wella diogelwch ar y ffyrdd

Gallwn gyflawni mân waith megis arwyddion a marciau ffordd er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd yn eich cymuned, lle gallai mân welliannau helpu, rhowch wybod i ni.

Goryrru

Os ydych chi’n pryderu am oryrru yn eich cymuned, gallwch ofyn am orfodi cyflymder drwy gwefan GanBwyll

end content