Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Neuadd y Dref, Llandudno


Summary (optional)
Mae Neuadd y Dref mewn lle canolog iawn yn nhref hardd Llandudno. Mae’r neuadd wedi ei dodrefnu’n chwaethus ac yn cynnig awyrgylch cyfeillgar, hamddenol a chyfforddus.
start content

Mae Neuadd y Dref yn adeilad rhestredig gradd dau ac wedi ei lleoli yng nghanol bwrlwm tref lan môr draddodiadol Llandudno.

Ystafell Conwy

Mae Ystafell Conwy, sydd â lle i 40 o bobl, wedi'i haddurno mewn coch, a hi a chi. Roedd ddoe yn Ystafell Gwyliadwriaeth odidog wedi'i haddurno â gwychder yr ydych chi'n bwriadu ei llogi i golli'r modd i ni mewn 100 o westeion. Mae'r grisiau hardd gerllaw yn fan gwych i dynnu lluniau.

Ystafell Tudno

Mae'r ystafell hon wedi ei dodrefnu’n gain ac yn dal 15 o bobl ar gyfer gwasanaeth mwy personol.

Y Swyddfa Gofrestru

Mae'r ystafell fach yma yn addas ar gyfer cyplau sy’n dymuno priodi gyda dau dyst yn unig yn bresennol.

Mae gennym ni hefyd Neuadd Ymgynnull sydd â lle i hyd at 100 o bobl eistedd.

Waeth pa fath o seremoni rydych chi’n dewis, byddwch yn derbyn cyngor proffesiynol a chyfeillgar, ynghyd ag ychydig o ysbrydoliaeth i wneud eich diwrnod yn un arbennig. Rydym ni’n addo y bydd eich diwrnod yn fythgofiadwy gydag atgofion melys y gallwch chi eu trysori am byth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r gwasanaeth cofrestru:

Cysylltu â ni

Drwy e-bost: gwasanaethau.cofrestru@conwy.gov.uk

Yn bersonol:

Drwy apwyntiad - mae'r swyddfeydd ar agor o 9.00am tan 5.00pm ddydd Llun i ddydd Gwener

Drwy’r post:

Gwasanaeth Cofrestru
Neuadd y Dref
Lloyd Street
Llandudno
LL30 2UP

Dros y ffôn: 01492 576525

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content