Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cofrestru Genedigaeth


Summary (optional)
start content

Babanod a anwyd yn Sir Conwy:

Gellir cofrestru genedigaeth yn Neuadd y Dref, Llandudno drwy wneud apwyntiad.

Babanod a anwyd tu allan i Sir Conwy:

  • Mae angen cofrestru yn yr ardal lle cafodd y babi ei eni.
  • Bydd angen cofrestru babi a anwyd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yng Ngwynedd
  • Bydd angen cofrestru babi a anwyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn sir Ddinbych
  • Os caiff eich babi ei eni yn unrhyw sir arall yng Nghymru neu Loegr, rhaid i'r enedigaeth gael ei chofrestru yn swyddfa gofrestru’r ardal honno. Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch Swyddfa Gofrestru agosaf

Cofrestru genedigaeth eich babi drwy ddatganiad:

Os nad ydych yn gallu mynd i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle ganwyd eich babi, gallwch wneud apwyntiad i fynychu unrhyw swyddfa gofrestru (yng Nghymru neu Loegr) i 'ddatgan' geni'r babi, yna bydd y cofrestrydd yn anfon y datganiad wedi'i lofnodi yn y post i'r swyddfa gofrestru gywir. Os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn, NI fydd Tystysgrif geni'r babi yn cael ei rhoi i chi yn eich apwyntiad - bydd yn cael ei chyhoeddi a'i phostio atoch o swyddfa gofrestru'r ardal lle ganwyd eich babi.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

  • Rhieni Priod - Gall unrhyw riant ddod i'r Swyddfa Gofrestru
  • Rhieni Dibriod - Os yw manylion y tad / yr ail riant benywaidd yn cael eu cynnwys yn y cofrestriad, yna mae’n rhaid iddynt fynychu'r Swyddfa Gofrestru gyda'i gilydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch pwy all gofrestru genedigaeth ar wefan gov.uk.

Y wybodaeth bydd y cofrestrydd yn gofyn amdani:

  • lle gafodd y babi ei eni, a’i ddyddiad geni
  • enw, cyfenw a rhyw y babi
  • enwau’r rhieni, eu cyfenwau a’u cyfeiriad
  • lle gafodd y rhieni eu geni a’u dyddiadau geni
  • dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni
  • swyddi’r rhieni
  • cyfenw’r fam cyn priodi

I helpu sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gofnodir byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddod â dogfennau adnabod gyda chi (e.e. Pasbort, Trwydded Yrru, Bil Gwasanaeth, Tystysgrifau Geni a Phriodas).

Tystysgrif Geni

Os ydych yn cofrestru genedigaeth eich babi yn yr ardal lle gannwyd eich plentyn, byddwch yn cael cyfle i brynu tystysgrif genni llawn am ffi briodol.

Ail-gofrestru genedigaeth eich plentyn:

Gellir ail-gofrestru genedigaethau os:

1. Yw’r Rhieni Naturiol wedi priodi yn dilyn yr enedigaeth
2. Rydych eisiau ychwanegu manylion y tad at y dystysgrif

Cofrestru Babi a anwyd yn farw:

Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am gymorth pellach.

Cael pasbort ar gyfer eich plentyn
Hawlio budd-daliadau plant
Gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd
Cais am dystysgrif geni

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content