Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amlosgfa


Summary (optional)
Mae Amlosgfa Bae Colwyn wedi ei lleoli ar dir Mynwent Bron y Nant. Gellir ei chyrraedd yn rhwydd o ffordd yr A55, Cyffordd 20, ac mae digon o le parcio.
start content

Mae ein Llyfr Coffa yn cael ei ddigideiddio ac ni fydd ar gael tan fis Awst. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Amlosgfa Bae Colwyn,
Glan y Wern Road,
Mochdre,
Conwy,
LL28 4YL


Mae safle’r amlosgfa yn cynnwys dau gapel – pob un â lle i tua 100 o bobl eistedd, ystafell aros gyda chyfleusterau toiled ac ystafell goffa lle mae’r Llyfrau Coffa yn cael eu harddangos. Mae system dolen sain yn y capel.

Am fwy o wybodaeth neu i drafod eich gofynion cysylltwch â ni ar 01492 577733, ebostiwch ni ar GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk neu defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.

Amlosgi - Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw gweddillion wedi eu hamlosgi?

Yn dilyn y gwasanaeth, mae’r arch yn cael ei throsglwyddo i'r fynwent er mwyn i'r amlosgiad ddigwydd. Ar ôl yr amlosgiad, yr enw cyffredin ar y gweddillion sydd wedi eu hamlosgi ydi llwch.

Beth sy’n digwydd i’r gweddillion sydd wedi eu hamlosgi?

Mae dewisiadau amrywiol ar gyfer lle gorffwys gweddillion sydd wedi eu hamlosgi megis eu gwasgaru, claddu mewn bedd, gosod mewn claddgell neu fynd â nhw adref.  Bydd eich trefnwr angladdau neu staff yr amlosgfa yn gallu trafod y dewisiadau â chi i’w hystyried.

A yw amlosgi yn fwy costus na chladdu?

Na. Yn gyffredinol mae cost claddu yn uwch na’r ffi amlosgi. Bydd eich trefnwr angladdau neu ein staff yn yr amlosgfa yn gallu eich cynghori ar y dewisiadau a’r costau.

A oes unrhyw grwpiau crefyddol sy’n gwahardd amlosgi?

Mae pob enwad Cristnogol, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, yn caniatáu amlosgi, fel y mae Siciaid, Hindŵiaid, Parsïaid a Bwdistiaid. Mae wedi ei wahardd serch hynny gan Iddewon Uningred a Mwslemiaid.

Pa seremoni grefyddol y galla i ei chael gydag amlosgi?

Mae’r gwasanaeth ar gyfer claddu ac amlosgi yr un fath ac eithrio ffurf y brawddegau trosglwyddo. Gall y gwasanaeth ddigwydd yn eich lle addoli chi eich hun gyda gwasanaeth trosglwyddo byr yng nghapel yr amlosgfa, neu fe allwch chi gael y gwasanaeth cyfan yng nghapel yr amlosgfa. Fel arall, efallai bod seremoni sifil yn well gennych chi neu ddim gwasanaeth o gwbwl.

Sut caiff amlosgiad ei drefnu?

Mae’r Rheolau Amlosgi yn gymhleth ac mae nifer o bobl yn cysylltu â threfnwr angladdau a fydd yn gallu sicrhau fod yr Amlosgfa yn derbyn yr holl ffurflenni cyfreithiol gofynnol.

A yw’n bosib trefnu amlosgiad heb drefnwr angladdau?

Ydi. Fe all yr Ysgutor neu’r perthynas agosaf drefnu'r gwasanaeth amlosgi eu hunain. Gofynnwch i’n staff am gyngor ar drefnu amlosgiad heb ddefnyddio trefnwr angladdau.

All perthnasau weld trosglwyddo'r arch i'r amlosgwr?

Gall. Gallwch weld y trosglwyddo o’r ardal wylio neu ar Deledu Cylch Cyfyngedig. Os ydych chi’n dymuno gweld y trosglwyddo hysbyswch ni wrth drefnu’r amlosgiad fel y gall y staff wneud y paratoadau angenrheidiol.

A yw’r arch yn cael ei losgi gyda’r corff?

Ydi. Rydym yn gweithio’n unol â Chanllawiau Arweiniol y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd. Maent yn nodi y bydd y cynhwysydd a'r corff yn cael eu gosod yn y ffwrnais a bydd yr amlosgi’n dechrau. Ni ddylid agor na tharfu ar y cynhwysydd, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, a bryd hynny dim ond gyda chaniatâd pendant ac ym mhresenoldeb y sawl wnaeth gais am yr Amlosgi (fel arfer yr ysgutor neu’r perthynas agosaf).

Pa mor fuan ar ôl y gwasanaeth fydd yr amlosgiad yn digwydd?

Rydym yn gweithio’n unol ag Egwyddorion Arweiniol y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd. Maent yn nodi y bydd yr amlosgi yn dechrau yn ddim hwyrach na 72 awr ar ôl y gwasanaeth trosglwyddo. Fe hysbysir y sawl wnaeth y cais ar gyfer Amlosgi pan yw’n bosib na fydd yr amlosgiad yn digwydd ar yr un diwrnod.

All mwy nac un arch gael eu hamlosgi ar yr un pryd?

Na. Mae pob amlosgiad yn cael ei wneud yn unigol.

Sut mae gweddillion wedi eu hamlosgi yn cael eu cadw arwahân?

Dim ond un arch ar y tro y gall amlosgwr ei derbyn, a bydd yr holl weddillion yn cael eu tynnu o’r ffwrnais cyn yr amlosgiad nesaf. Mae cerdyn adnabod yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y broses ac felly’n sicrhau adnabyddiaeth gywir.

A yw eirch yn cael eu gwerthu i’w hailddefnyddio?

Na. Mae’r arch a’r corff y tu mewn yn cael eu hamlosgi gyda’i gilydd.

lla i ymweld â’r amlosgfa a gweld be sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni?

Gallwch. Gellir trefnu ymweliad gyda rhybudd ymlaen llaw.

Lle alla i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn ag amlosgi?

Mae Siarter y Galarwyr Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am holl agweddau’r broses amlosgi ac yn cynnwys agweddau amgylcheddol a chymdeithasol. Ewch i www.iccm-uk.com i gael rhagor o wybodaeth.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content