Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Claddedigaethau


Summary (optional)
Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau claddedigaeth, gan gynnwys claddedigaethau traddodiadol, coetir, Moslemaidd ac Iddewig.
start content

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar 01492 577732, e-bostiwch ni ar GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk neu llenwch ein ffurflen ar-lein.

Beddau

Sut mae’r beddau wedi’u gosod mewn mynwent?
Mae beddau’n cael eu gosod mewn patrwm rheolaidd yn y mynwentydd. Unwaith y bydd yr holl leiniau bedd wedi cael eu prynu, ni allwn gynnig unrhyw safleoedd beddau newydd yn y fynwent honno.
Pwy sy'n berchen ar fedd?
Mae modd prynu bedd gan y cyngor, ac yna mae gan berchennog y bedd yr hawl i gladdu yn y bedd ac i osod cofeb arno.

Nid yw perchnogaeth y tir yn trosglwyddo, mae'r cyngor yn berchen ar yr holl dir yn y mynwentydd. Mae'r hawl i fedd yn cael ei phrynu am uchafswm cyfreithiol o 100 mlynedd. Ar ddiwedd y cyfnod mae modd prynu’r brydles, neu fel arall mae’r hawliau’n cael eu trosglwyddo yn ôl i'r cyngor.

Mae perchennog y bedd yn derbyn gweithred ar gyfer y bedd, sy'n ddogfen gyfreithiol a dylid ei chadw mewn lle diogel. Os ydych yn dymuno trosglwyddo'r weithred i berchennog newydd, cysylltwch â'r swyddfa weinyddol ar 01492 577732.
Faint o gladdedigaethau y gellir eu cael mewn un bedd?
Yn dibynnu ar y safle, gellir cael hyd at dair claddedigaeth ym mhob bedd, fodd bynnag mae'n rhaid gofyn am hyn ar adeg y gladdedigaeth gyntaf. Unwaith nad oes lle yn y bedd ar gyfer claddedigaethau arch llawn, mae'n bosibl claddu blychau o weddillion wedi'u hamlosgi yn y bedd.
Faint mae claddedigaethau yn eu costio?
Mae’r ffioedd cyfredol ar y dudalen Ffioedd a Thaliadau.

 

Claddu mewn coetir

Er mwyn bodloni'r galw cynyddol am gladdedigaethau mwy naturiol, mae gennym safle claddu mewn coetir ym Mynwent Lawnt Llanrhos yn Llandudno, Rhandir Hedd yn Llanfairfechan a Than y Foel ym Mhenmaenmawr.

Pa fath o gladdedigaethau gall ddigwydd mewn lleoliad coetir?
Mae lleiniau ar gyfer claddedigaethau llawn neu gladdedigaethau lludw yn y safleoedd claddu mewn coetir.

Bydd bedwen arian ifanc yn cael ei phlannu a'i chynnal gan y Cyngor ar ben pob llain bedd yn fuan wedi'r gladdedigaeth. Bydd y coed yn y pen draw yn darparu cynefin i fywyd gwyllt, gan roi bwyd a lloches i fywyd gwyllt lleol.

Mae'r goeden yn atal y bedd rhag cael ei hailddefnyddio a bydd safle’r gladdedigaeth yn cael llonydd fel rhan o'r coetir naturiol.
Sut y caiff y safleoedd coetir eu rheoli?
Mae'r ardaloedd coetir yn cael eu dosbarthu fel Safle Bioamrywiaeth yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn golygu torri gwair yr ardal unwaith y flwyddyn ac annog bywyd gwyllt megis blodau gwyllt brodorol.
A allaf osod carreg fedd neu gofeb arall ar gladdedigaeth mewn coetir?
Nid yw cerrig beddau yn cael eu defnyddio ar y math hwn o safle claddu, ac ni ellir gadael fasau o flodau, cerfluniau neu wrthrychau artiffisial eraill wrth lan y bedd. Nid yw hon yn fynwent draddodiadol, mae'n fan lle mae beddau’n dod yn rhan o'r dirwedd.

Ni fydd blodau wedi'u torri'n cael eu caniatáu fel rheol. Yr unig eithriad i hyn yw’r rhai sy’n cael eu gadael ar y bedd ar adeg y gladdedigaeth. Dylai'r rhain fod yn goesynnau moel heb seloffen neu lapio addurnol. Byddant yn cael eu symud pan fydd y blodau yn dechrau edrych yn flêr.

Gellir plannu blodau gwyllt neu fylbiau addas ar lain y bedd ar ôl ymgynghori â'r rheolwr parciau sy’n gyfrifol am y safle.
Pa fath o arch sy’n cael ei defnyddio mewn claddedigaeth mewn coetir?
Dim ond eirch pydradwy wedi’u gwneud o bren naturiol, cardbord, neu wair wedi’i gwehyddu sy’n cael eu caniatáu, er mwyn sicrhau bod yr ardal claddu coetir yn parhau i fod mor naturiol â phosibl. Ni ddylai unrhyw handlenni neu fewnosodiadau plastig neu fetel gael eu defnyddio.

Mae'r un amodau hefyd yn berthnasol i gasgedi gweddillion amlosgedig.
A allaf ddewis safle claddu o fewn ardal y coetir?
Bydd yr holl leiniau bedd yn y coetir ar gyfer un person. Nid oes posibl cadw beddau. Mae cynlluniau wedi cael eu datblygu i ddarparu lle digonol ar gyfer claddedigaethau coetir yng Nghonwy a mynwentydd eraill sy'n eiddo awdurdodau lleol, lle mae gofod yn caniatáu.
Heb garreg fedd, sut y gallaf ddod o hyd i fedd penodol?
Mae pob bedd (gan gynnwys lleiniau llwch) yn cael ei farcio â rhif unigryw, sydd ynghlwm wrth bolyn pren cadarn ac yn cael ei gofnodi'n ofalus ar gynllun manwl a gedwir yn swyddfa'r fynwent yn amlosgfa Bron y Nant.
Sut ydw i'n trefnu angladd ar gyfer claddedigaeth mewn coetir?
Pan fydd claddedigaeth yn digwydd yn Llanrhos, Tan y Foel neu Llanfairfechan, mae'r trefniadau yn ôl disgresiwn teulu’r ymadawedig. Gallwch ddewis trefnu angladd yn y ffordd draddodiadol, gan ddefnyddio Trefnydd Angladdau, gyda gwasanaeth ac yna’r gladdedigaeth.

Fel arall, efallai y dymunwch brynu'r bedd a chloddio bedd drwy'r Cyngor ac yna gwneud y trefniadau sy’n weddill eich hunain.

Rydym yn deall bod hyblygrwydd yn bwysig, ac ar yr amod fod yr holl amodau yn cael eu bodloni, mae’r rhan fwyaf o bethau yn bosibl.

Sut mae'r beddau’n cael eu cofnodi?
Ar ôl y gladdedigaeth, rydym yn cofnodi’r holl fanylion yn ein Cofrestr Claddedigaethau (fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith) a chyhoeddi gweithred sy'n rhoi hawl unigryw i gladdu.

 

Claddedigaethau Moslemaidd

Rydym yn darparu ardal yn Mynwent Lawnt Llanrhos ar gyfer claddedigaethau Moslemaidd.

.Sut mae'r beddau’n cael eu paratoi?
Bydd beddau Mwslimaidd yn cael eu paratoi yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gyda'r gymuned Fwslimaidd ac yn unol ag arfer Mwslimaidd.
Bydd y bedd yn cael ei alinio tuag at Mecca ar echel Gogledd-ddwyrain i Dde-orllewin.
.Ydych chi angen eirch?
Na - rydym yn caniatáu claddedigaethau heb arch, neu gladdedigaethau amdo, ym Mynwent Lawnt Llanrhos.
.Sut mae'r beddau’n cael eu cynnal a chadw?
Mae llawer o fynwentydd yn lefelu’r beddau i wneud y mynwentydd yn haws i’w cynnal. Rydym yn deal bod hyn wedi’i wahardd yn y ffydd Fwslemaidd. Felly, byddwn yn strimio'r glaswellt yn rheolaidd a chymryd gofal i beidio â mynd yn rhy agos at y bedd.
.Allwch chi gynnig claddedigaeth mewn cyfnod o 24 awr?
Gallwn, rydym yn gallu cynnig claddedigaeth Fwslimaidd o fewn cyfnod o 24 awr, ar yr amod bod yr holl ddogfennau angenrheidiol mewn trefn.

 

Claddedigaethau Iddewig

Mae'r ardal claddedigaethau yn Llanrhos yn cael ei weinyddu yn ôl traddodiadau Iddewiaeth ryddfrydig, gan adael i deulu'r ymadawedig benderfynu ar y trefniadau a sut i alaru ar ôl hynny.  Gall Rabi ag arweinyddion cynulleidfaol roi cyngor ac esbonio arferion Iddewig lle bo angen hynny, ond ein polisi ni yw gadael i deuluoedd i ac unigolion wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Disgwylwn na fydd angladdau yn cael eu cynnal ar y Sabath (dydd Sadwrn) - mae claddedigaethau ar gael ar gyfer pob diwrnod arall yr wythnos.  Mae beddi'n cael eu torri ar gais y teuluoedd a gellir claddu hyd at dri ynddynt.

 

Claddedigaethau Preifat ac yn y Cartref

Gweler yr adran Claddedigaethau Preifat ac yn y Cartref am ragor o wybodaeth.

Claddu efo Cymorth Gwladol

Gweler yr adran Claddu efo Cymorth Gwladol am raogir o wybodaeth.

 

end content