Ers 1 Ebrill 2017, dan Ran 7, Adran 139 Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru'r hawl i godi premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr 2022, yn unol ag adran 12a a 12b Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y’i cynhwysid gan adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, wedi penderfynu’r canlynol:
- Cymeradwyo’r penderfyniad i godi Premiwm Treth y Cyngor o 50% ar gyfer Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor o 1 Ebrill 2023, ac
- Argymell lefel fynegol o Bremiwm Treth y Cyngor o 100% ar Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor o 1 Ebrill 2024 (yn ddibynnol ar adolygiad yn ystod 2023/2024).
Mae’r Gweithgor Tai Fforddiadwy (Premiwm Treth y Cyngor) yn cyfarfod bob blwyddyn ariannol i adolygu’r sefyllfa gan ystyried yn fanwl yr holl wybodaeth sydd ar gael ynghyd â chanlyniadau'r ymgynghoriad diwethaf cyn cynnig argymhelliad, a fydd wedyn yn cael ei adolygu a'i ystyried drwy'r broses ddemocrataidd.
Mae posibilrwydd y bydd yr ardoll yn cynhyrchu refeniw ychwanegol y bwriedir ei ddefnyddio i gynorthwyo i:
- Ddod â thai gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd
- Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy
- Gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
- Helpu i ddiwallu anghenion tai lleol
Ar hyn o bryd mae incwm o’r premiymau yn helpu i gefnogi’r gyllideb Tai a Digartrefedd.
Mae ymgynghoriad pellach ar y premiymau arfaethedig yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a gwerthfawrogwn eich mewnbwn yn yr ymgynghoriad. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Gweithgor Tai Fforddiadwy (Premiwm Treth y Cyngor).
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau ar 14 Gorffennaf 2023.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â trethycyngor@conwy.gov.uk
Cliciwch yma i weld ein rhybudd preifatrwydd.