Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Treth y Cyngor Adennill Treth Y Cyngor

Adennill Treth Y Cyngor


Summary (optional)
start content


Bil Blynyddol

Bydd bil blynyddol treth y cyngor fel arfer yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.  Bydd y bil yn dangos deg rhandaliad statudol o fis Ebrill i fis Ionawr sy'n daladwy ar y cyntaf o bob mis. Mae'n awr yn bosibl talu dros ddeuddeg mis er mwyn lledaenu'r gost.   

Gallwch dderbyn eich bil yn electronig yn awr

Os ydych yn talu gyda Debyd Uniongyrchol, bydd gennych ddewis o ddyddiadau talu. Cwblhewch ffurflen Debyd Uniongyrchol er mwyn i ni drefnu hyn ar eich cyfer.   

Yn derbyn incwm isel?

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Gostyngiad Treth y Cyngor os ydych yn derbyn incwm isel. Mae Cyfrifiannell Budd-daliadau ar-lein yn galluogi unigolion i ganfod eu cymhwysedd i dderbyn Budd-Daliadau Tai / Lwfans Tai Lleol a Gostyngiad Treth y Cyngor trwy ddilyn cyfarwyddiadau cam wrth gam.

Nodyn Atgoffa

Os yw'r taliad yn hwyr yna bydd nodyn atgoffa'n cael ei gyflwyno. Os yw'r taliad yn cael ei gwblhau o fewn saith niwrnod ar ôl y nodyn atgoffa yna bydd y rhandaliadau yn parhau. Os ydych yn peidio â thalu eto yna bydd ail nodyn atgoffa'n cael ei gyflwyno.  Os na fyddwch yn talu fel y gofynnir i chi wneud byddwn yn cyflwyno Gwŷs Llys yr Ynadon am swm LLAWN treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn. Bydd y cam gweithredu hwn yn achosi costau o £70.00.   

Anawsterau'n talu Treth y Cyngor?

Gadewch i ni eich cynorthwyo. Os nad ydych yn gallu talu cysylltwch â'r Adran Treth y Cyngor ar unwaith. Os nad ydych yn rhoi gwybod eich bod yn cael anhawster talu, gall achosi costau ychwanegol i chi eu talu. Efallai y bydd modd gosod trefniant. Sylwer, dim ond un trefniant y gallwn ei drefnu ar dreth y cyngor ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol.   

Rhif Ffôn Treth y Cyngor: 01492 576607 
Cyfeiriad E-bost:  ymholiadau.adennill@conwy.gov.uk.


Rhybudd Terfynol

Os ydych yn peidio â thalu ar ôl yr ail nodyn atgoffa yna rydych wedi COLLI'r hawl i dalu mewn rhandaliadau. Bydd Rhybudd Terfynol yn cael ei gyflwyno am swm LLAWN treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn. Oni dderbynnir y taliad llawn o fewn saith niwrnod, bydd Gwŷs Llys yr Ynadon yn cael ei chyflwyno gyda chostau o £70.00.  

Gwŷs

Os nad yw'r nodyn atgoffa neu'r Rhybudd Terfynol yn cael ei dalu'n llawn fel y nodwyd uchod yna bydd Gwŷs Llys yr Ynadon yn cael ei chyflwyno am swm LLAWN treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn a chostau o £70.00. Os telir yn llawn gan gynnwys y costau cyn dyddiad y llys yna ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach. Os nad yw'n cael ei dalu yna gwneir cais am Orchymyn Atebolrwydd yn y llys.

Mae'n bosibl gwneud trefniant ar yr adeg yma ac mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r adain adennill ar unwaith i drafod eich opsiynau. Sylwer, os gwneir trefniant bydd y Cyngor yn parhau i wneud cais am Orchymyn Atebolrwydd.   

Rhif Ffôn Adennill:  01492 576608
Cyfeiriad E-bost:  ymholiadau.adennill@conwy.gov.uk



Gorchymyn Atebolrwydd

Os nad yw'r costau a'r Gwŷs wedi'u talu'n llawn erbyn dyddiad y llys, gwneir cais ar gyfer Gorchymyn Atebolrwydd. Mae hyn yn rhoi pŵer i'r Cyngor adennill y ddyled trwy gymryd didyniadau o'ch enillion neu fudd-daliadau, rhoi cyfarwyddyd i swyddogion gorfodi neu wneud cais i'ch carcharu am dri mis. Efallai y bydd y Cyngor hefyd yn dechrau achos methdalwr yn eich erbyn neu yn derbyn gorchymyn codi tâl yn erbyn eich eiddo.  

Os nad ydych wedi cytuno ar gynllun talu erbyn hyn rhowch fanylion o'ch incwm a gwariant. Mae'n rhaid cwblhau hwn a'i ddychwelyd o fewn 14 diwrnod. Gallech dderbyn dirwy o hyd at £500.00 am beidio â chwblhau'r ffurflen a £1000.00 am ddarparu gwybodaeth ffug. Cwblhewch y ffurflen Incwm a Gwariant arlein yma os gwelwch yn dda. 

Asiantau Gorfodi

Os nad ydych wedi gwneud trefniant priodol mae gan y Cyngor bŵer dan Orchymyn Atebolrwydd, i ddefnyddio asiant gorfodi i gasglu'r ddyled. Mae'n rhaid gwneud unrhyw drefniant ar y cam hwn gyda'r asiant gorfodi. Bydd y cam gweithredu hwn yn achosi mwy o gostau fydd yn cael eu hychwanegu i'r swm sy'n ddyledus.

Newidiadau i ffioedd Asiant Gorfodi

Ers 6 Ebrill 2014 bu strwythur ffioedd newydd.

  • Cyfnod Cydymffurfio: £75.00 yn cael ei ychwanegu at bob gorchymyn atebolrwydd cyn gynted ag y caiff ei drosglwyddo i’r Asiant Gorfodi. Mae'r ffi yn daladwy cyn y ddyled.
  • Cyfnod Gorfodi: £235.00 yn ogystal â 7.5% o werth y ddyled sydd dros £1,500.00. Mae'r ffi yn daladwy ar yr ymweliad cyntaf i'ch eiddo. 
  • Cyfnod Gwerthu neu Waredu: £110 yn ogystal â 7.5% o werth y ddyled sydd dros £1,500.00. Mae'r ffi yn daladwy ar yr ymweliad cyntaf i gael gwared ar eich nwyddau.

Gall yr Asiant Gorfodi hefyd adennill ffioedd a achoswyd yn rhesymol megis costau storio nwyddau a ffioedd saer cloeon.

Gorchymyn Atafaelu Enillion

Bydd gorchymyn yn cael ei anfon at eich cyflogwr yn eu hysbysu i adennill y ddyled yn uniongyrchol o'ch cyflog.  Bydd y swm sy'n cael ei ddidynnu yn ganran sy'n cael ei bennu yn ôl cyfraith. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor - Cymru

Gorchymyn Atafael eich Budd-daliadau

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Gwarant Pensiwn yna byddwn yn gofyn i'r Adran Waith a Phensiynau ddidynnu'r ddyled o'ch budd-daliadau. Bydd y sym sy'n cael ei ddidynnu'n cael ei bennu yn ol cynfraith.

Achos Methdalwyr

Efallai y bydd y Cyngor yn dechrau achos methdalwr yn eich erbyn.  Bydd y cam gweithredu hwn yn:

  • Effeithio ar eich gradd credyd a byddwch yn cael eich atal rhag derbyn unrhyw gredyd pellach.
  • Achosi costau pellach i'ch cyfrif
  • Bydd eich cyfrifon banc yn cael eu cloi
  • Efallai y bydd eich eiddo'n cael ei werthu i adennill y ddyled.

Gorchymyn Codi Tâl

Efallai y bydd y cyngor yn derbyn gorchymyn codi tâl ar eich eiddo, ac efallai y bydd yn rhaid gorfodi ei werthu er mwyn adennill y ddyled.

Asiantau Gorfodi

end content