Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rheoli Perygl Llifogydd Lleol


Summary (optional)
start content

Mae llifogydd yn broblem gyffredin ar draws Cymru ac, fel Awdurdod Lleol Arweiniol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cymryd camau i nodi’r ardaloedd yn Sir Conwy sydd mewn perygl o lifogydd ac i gydweithio ag Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd, rhanddeiliaid a’r cyhoedd i rannu data ac adnoddau er mwyn lleihau perygl llifogydd.

Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd Conwy

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn mynnu bod cynghorau sir yn arwain gwaith cydlynu rheoli perygl llifogydd ar gyfer dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin yn eu hardal.

Mae llifogydd o brif afonydd yn parhau’n gyfrifoldeb i Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae’r Ddeddf yn gofyn eu bod yn datblygu, cynnal a gweithredu Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd sy’n rhoi gweledigaeth glir ar sut y caiff risg llifogydd ei drin yng Nghonwy.

Mae sicrhau bod cymunedau’n gwybod pa beryglon sydd, beth yw cyfrifoldebau’r Cyngor ac Awdurdodau Rheoli Risg eraill o ran perygl llifogydd a beth all cymunedau ei wneud i’w cynnwys eu hunain yn rhan bwysig o’r Strategaeth Leol. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau.

Adroddiadau Ymchwiliadau i Lifogydd

Fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae dyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i ymchwilio, lle bo'n briodol, i achosion o lifogydd o fewn ffiniau’r Sir. Byddwn yn cynnal ymchwiliadau, yn dilyn llifogydd, i ddarganfod beth a’u hachosodd a, lle bo’n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Rheoli Risg perthnasol.

Pan fo ymchwiliad wedi’i gwblhau, bydd Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd yn cael ei lunio, a gallwch ofyn amdano trwy gysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau. Edrychwch ar y Rhestr o Ymchwiliadau i Lifogydd sydd wedi'u Cwblhau i weld y rhai sydd ar gael.

Cofrestr o Asedau Risg Llifogydd

Mae dyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gynnal cofrestr o’r adeileddau a’r nodweddion (asedau) sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar risg llifogydd yn yr ardal. I gael mwy o wybodaeth, cllenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltwch â ni.

 

Corff Cymeradwyo System Draenio Cynaliadwy

Bydd newid sylweddol i ofynion draenio yn effeithio ar ddatblygiadau newydd o fis Ionawr 2019.

O 7 Ionawr 2019, bydd angen i bob datblygiad newydd fod â system draenio cynaliadwy ar gyfer dŵr wyneb os oes o leiaf 2 eiddo neu os yw’r arwynebedd adeiladu yn fwy na 100m2. Rhaid i’r systemau draenio dŵr wyneb gael eu dylunio a’u hadeiladu i fodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy.

Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy’n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (a elwir fel rheol yn SAB) cyn i waith adeiladu ddechrau. Bydd dyletswydd ar y SAB i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio.

end content