Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bod yn Ddarparwr Gofal Plant


Summary (optional)
Ydych chi’n meddwl y gallech chi ofalu am blant? Efallai yr hoffech chi ddechrau’ch busnes gofal plant eich hun? Hoffech chi gael gyrfa sy’n rhoi boddhad? Os felly, mae nifer o gyfleoedd ar gael i chi.
start content

Mae’r dewisiadau yn amrywio o fod yn ofalwr plant a gofalu am blant yn eich cartref eich hun, i sefydlu neu weithio mewn meithrinfa ddydd neu glwb ar ôl ysgol.

Efallai eich bod yn dechrau meddwl am ystyried gofal plant fel gyrfa ac efallai yr hoffech sgwrs anffurfiol ag un o’n staff yma yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy. Gallwn roi arweiniad i chi ynglŷn â rhai o’r materion yr ydych am eu hystyried a’ch cyfeirio at sefydliadau sy’n gallu helpu.

Ffoniwch ni ar: 01492 577850
neu anfonwch e-bost at: plant.children@conwy.gov.uk

Sefydliadau defnyddiol:


Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ofalwr Plant, mae Tîm Datblygu Gofal Plant Conwy yma i’ch helpu a’ch cefnogi. Mae’r Tîm Datblygu Gofal Plant hefyd yn rhedeg rhaglen o gyrsiau hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant.

Caiff gofal plant ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Rhif Ffôn: 0300 7900 126
E-bost: agc@llyw.cymru
Gwe:https://arolygiaethgofal.cymru


Os ydych am ddarparu gofal plant, rhaid i chi gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content