Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwella cyfranogiad, lleihau cwynion


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp  Targed
- - - - Pob Llywodraethwr, Pennaeth a Chlerc

 

Nodau ac amcanion y cwrs:

Nod:

  • Sicrhau bod llywodraethwyr yn deall eu gwaith wrth ddatrys cwynion.

Gall cwynion fod yn fodd i newid ac i wella ysgol os byddant yn cael eu trin yn dda. Gallant hefyd gryfhau’r berthynas rhwng yr ysgol a rhieni, os bydd rhieni’n teimlo bod rhywun yn ‘gwrando arnynt’ a bod eu profiad yn un cadarnhaol. Fodd bynnag, gwyddom o astudiaethau achos y gall cwynion a gafodd eu trin yn amhriodol achosi gwrthdaro a drwgdeimlad sy’n ymestyn y tu hwnt i ‘ddatrys’ y gŵyn. Gall hyn gael effaith negyddol am yn hir ar enw da’r ysgol (a’r llywodraethwyr).

Mae’r gweithdy’n edrych ar waith a chyfrifoldebau’r llywodraethwyr wrth sicrhau bod cwynion ynghylch yr ysgol a’r gwasanaeth mae’n ei ddarparu, ble bynnag maent wedi cychwyn neu beth bynnag maent yn ymwneud ag o, yn cael eu trin yn effeithiol ac effeithlon.

Bydd yn ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol llywodraethwyr a disgwyliadau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddarparu atebion priodol i’r cwynion mewn modd amserol, gan diwallu anghenion rheoliadol a chadw at ganllawiau cenedlaethol.

Bydd astudiaethau achos yn cael eu hystyried a gwersi’n cael eu dysgu.

Canlyniadau Dysgu Allweddol:

  • Bod llywodraethwyr yn deall eu gwaith a’u cyfrifoldebau wrth ddatrys cwynion
  • Deall protocolau a ‘phethau i’w gwneud a pheidio â’u gwneud’ wrth drin cwynion
  • Gwella effeithiolrwydd cyrff llywodraethol

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content