Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cŵn yn cyfarth


Summary (optional)
Gall cŵn yn cyfarth fod yn beth annifyr ofnadwy. Gan ei fod yn sŵn, mae’n niwsans statudol sydd wedi’i restru. Mae hyn yn golygu os yw ci sy’n cyfarth yn tarfu arnoch gallwch wneud cwyn ac mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i gynnal ymchwiliad rhesymol.
start content


Os yw ci cymydog yn swnllyd, lle bo hynny'n bosibl, ceisiwch drafod y broblem gyda nhw. Efallai nad ydynt yn ymwybodol bod eu ci yn cyfarth ac o effeithiau'r sŵn. Bydd hyn yn aml yn datrys y mater ac mae hefyd yn helpu i gynnal perthynas dda gyda’ch cymydog.

Os nad yw hyn yn datrys y broblem neu os ydych yn teimlo na allwch fynd at eich cymydog, yna dylech gysylltu â ni i drafod y gŵyn ar eich rhan. Byddwn yn cysylltu â’r perchennog i ddechrau i roi gwybod iddynt am y gŵyn ac yn rhoi cyngor lle bo angen ar y rheolaethau/camau atal cŵn rhag cyfarth posibl. Yn ôl y gyfraith gall ci sy’n cyfarth fod yn niwsans sŵn. Gellir mynd â’r perchennog i'r llys os nad yw'n gwneud dim i atal y niwsans.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content