GGMC Rheoli Cŵn (PDF, 29Kb)
Mapiau GGMC Rheoli Cŵn (PDF, 32.60Mb)
Ymgynhoriad Blaenorol
Er mwyn mynd i’r afael â materion rheoli cŵn a darparu amgylchedd mwy diogel a glanach i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Conwy, yn 2012 fe ymgymerodd y Cyngor ag ymgynghoriad cyhoeddus mawr, ar y posibilrwydd o gyflwyno Gorchmynion Rheoli Cŵn. Daeth y rhain i rym yn dilyn hynny yn unol â Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005, sy’n ymdrin â:
- Baw Cŵn
- Gwaharddiadau Cŵn
- Cŵn ar Dennyn
- Cŵn ar Dennyn trwy Gyfarwyddyd
Mae’r cyngor yn adolygu’r rheoliadau cŵn presennol, felly’n ymgynghori ar y bwriad i ddiwygio’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.
Ar 20 Hydref 2017, fel gofyniad Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, daeth Gorchmynion Rheoli Cŵn y Cyngor yn un Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Roedd y newid hwn yn digwydd yn awtomatig mewn cyfraith.
Mae’r Cyngor nawr yn adolygu'r rheolau cŵn hyn, ac felly wedi ymgynghori ar y bwriad i ddiwygio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus fydd yn para am 3 blynedd, yna caiff ei adolygu. Dangosir manylion llawn yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng 22/01/18 a 23/02/18, isod, ynghyd â’r canlyniadau.
Roedd y cynigion yn anelu i greu cydbwysedd fel bod perchnogion cŵn yn gallu mwynhau a sicrhau lles eu cŵn, a chaniatáu eraill i fwynhau mannau cyhoeddus ar yr un pryd, heb ymyrraeth nac effaith gan gŵn a pherchnogaeth cŵn anghyfrifol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol, ystyriwyd y rheolyddion cŵn arfaethedig eto. Wedi hynny, ystyriodd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Pwyllgor Craffu y GGMC drafft newydd ar 05/02/20 a Chabinet y Cyngor ar 11/02/20. Gwnaed newidiadau pellach i’r GGMC drafft newydd yn dilyn ceisiadau gan Aelodau.
Mae’r newidiadau a gynigiwyd i’r fersiwn a ymgynghorwyd arni’n wreiddiol yn destun yr ail ymgynghoriad hwn.
Mae’r dogfennau ar y wefan sydd wedi’u hamlygu mewn melyn yn darparu manylion ar y cynigion. Yn dilyn yr ail ymgynghoriad a chyfnod ystyried yr ymatebion, bydd unrhyw gamau’n cael eu hystyried yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Cabinet..
Canlyniadau’r Ymgynghoriad
Rhwng 01/7/20 a 28/07/20 ymgynghorodd y Cyngor yn gyhoeddus dim ond ar y newidiadau, diwygiadau ac ychwanegiadau arfaethedig i’r Gorchymyn Drafft Newydd gwreiddiol yn unig oedd yn ei dro yn creu’r GGMC newydd arfaethedig.
Mae canlyniadau’r ymgynghoriad a’r sylwadau a dderbyniwyd wedi cael eu hystyried, ac maent fel a ganlyn:
Gwefannau allanol
Gweler hefyd