Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ansawdd Dŵr Yfed


Summary (optional)
Rydym yn profi cyflenwadau dŵr Cyhoeddus a Phreifat. Yma byddwch yn dod o hyd i gyngor ar halogiad dŵr, y sefydliadau sy'n gyfrifol am ei lanhau a gorfodi, a manylion cyswllt i roi gwybod am ddigwyddiad.
start content

Profi Dŵr o'r Prif Gyflenwad

Os ydych yn pryderu am ansawdd eich dŵr yfed, dylech gysylltu â Dŵr Cymru yn gyntaf. 

Gellir cysylltu â Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod ansawdd dŵr yn fwy cyffredinol, fe allwn eich cynghori ymhellach.

Profi ar gyfer Plwm mewn Dŵr o'r Prif Gyflenwad mewn Eiddo Domestig

Mae'n bosibl i bibellau plwm fodoli mewn eiddo hŷn.  Yn gyffredinol, perchennog y tŷ (defnyddiwr) sy'n gyfrifol am gyflwr y pibellau ar ochr y defnyddiwr o'r stop-tap.Mae stop-tap Dŵr Cymru fel arfer ar ffin yr eiddo neu o fewn palmant y briffordd.

Er y gall llawer o waith ailwampio mewnol eisoes fod wedi cael gwared â phibellau plwm mewnol o fewn y tŷ, mae'n bosibl i rannau o bibellau, er enghraifft, sy'n rhedeg o dan rodfeydd a llwybrau fod yno o hyd.Gall hyn fod yn ddigonol i'r dŵr amsugno digon o blwm i arwain at fethiant yn safon ansawdd y dŵr yn nhap y defnyddiwr.

Beth i'w wneud os ydych yn amau ​​bod gan eich eiddo bibellau plwm

Os ydych yn amau ​​neu os oes gennych bryderon bod gan eich eiddo bibellau plwm, cysylltwch â ni i drefnu prawf ansawdd dŵr yn nhap y gegin.

A oes grantiau ar gael ar gyfer cael gwared â phibellau plwm?

Er nad oes grantiau ar gael bellach, fe'ch cynghorir i wirio gyda Dŵr Cymru i weld a ydynt yn gwneud unrhyw waith adnewyddu'r prif gyflenwad yn yr ardal gan mai hon fyddai'r adeg fwyaf cost effeithiol i ddisodli unrhyw bibellau ger y stop-tap.

Cyflenwadau Dŵr Preifat

Mae cyflenwad dŵr preifat yn un nad yw'n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr.Mae mwy na 600 o eiddo yn cael eu gwasanaethu gan gyflenwad dŵr preifat ym Mwrdeistref Sirol Conwy.Mae cyflenwadau dŵr preifat yn cynnwys ffynonellau dŵr o ffynhonnau, tyllau turio a ffrydiau, ond gall gynnwys ffynonellau dŵr a ddefnyddir ar gyfer dibenion domestig neu fasnachol nad yw'n dod o'r rhwydwaith prif gyflenwad dŵr cyhoeddus a gyflenwir yng Nghonwy gan Dŵr Cymru.

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i fonitro ansawdd y dŵr a ddefnyddir o gyflenwadau dŵr domestig preifat sy'n gwasanaethu mwy nag un annedd.

Os oes gennych gyflenwad dŵr preifat ac yn awyddus i gael y dŵr wedi'i brofi, llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.

Cyflenwadau Dŵr mewn Safleoedd Masnachol

Os yw eich ymholiad yn ymwneud ag eiddo masnachol neu lety gwyliau, mae hyn yn cael ei orfodi gan y Tîm Amgylchedd gellir cysylltu drwy anfonwch e-bost at regulatory.services@conwy.gov.uk.

end content