Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sbwriel


Summary (optional)
Mae'n drosedd taflu, gollwng neu adael sbwriel yn unrhyw le awyr agored.
start content

Rydym am annog trigolion ac ymwelwyr i beidio â gollwng sbwriel ac i gadw'r ardal yn lân.

Beth ddylech chi ei wneud?

  • Rhoi eich sbwriel mewn bin
  • Os nad oes bin, cadwch eich gwastraff i'w daflu yn ddiweddarach

Troseddau taflu sbwriel

Gallai hyn fod yn unrhyw beth sy'n effeithio ar yr amgylchedd.Mae troseddau fel gollwng gwm cnoi, pecynnau bwyd cyflym a papurau fferins yn cael eu hystyried fel taflu sbwriel.Mae taflu stwmp sigarét i lawr draen hefyd yn taflu sbwriel (mae'n anghyfreithlon ac yn llygru'r dyfrffyrdd) fel ag y mae taflu sbwriel allan o gar.

Nid yw hi'n ofynnol bod arwyddion wedi'u gosod yn eich hysbysu ei bod yn drosedd i ollwng sbwriel.

Y gosb

Bydd unrhyw un sy'n cael eu dal yn gollwng sbwriel yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £75 yn y lle cyntaf. Os na chaiff hwn ei dalu bydd y mater yn cael ei gyfeirio at y Llys Ynadon.Os yn euog o daflu sbwriel gellir rhoi dirwy o hyd at £2500.

Hybiau Codi Sbwriel Lleol

Benthycwch offer codi sbwrial am ddim a helpwch i ofalu am eich ardal leol
end content