Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Problemau Amgylcheddol Porth newydd 'Rhowch wybod i ni' AFfCh yn fyw

Mae porth 'Rhowch wybod i ni' yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau bellach yn fyw.


Summary (optional)
Mae Rhowch wybod i ni yn adnodd map i nodi materion amgylchedd ac mae’n mynd i chwyldroi’r ffordd y rhoddir gwybod i’r AFfCh am bryderon ac ymholiadau amgylcheddol.
start content

Nodweddion Allweddol

  • Yn addas ar gyfer ffonau symudol, llechi electronig, gliniaduron a chyfrifiaduron
  • Defnyddir data GPS i chwyddo i’ch lleoliad presennol a nodi lleoliad eich cais
  • Anfonir diweddariadau e-bost i roi gwybod i chi am statws a chynnydd eich cais – mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cais
  • Mae Rhowch wybod i ni yn borth “amser real" - pan fyddwch chi’n cyflwyno cais bydd yn cael ei anfon yn syth i’r gwasanaeth perthnasol
  • Gallwch hefyd gyflwyno lluniau i gefnogi’ch cais neu’ch ymholiad

Rydym ni wedi cael gwared ar rai o’r hen ffurflenni a byddwch yn cael eich dargyfeirio’n awtomatig i’r porth Rhowch wybod i ni.

Cyfeiriad gwe’r porth yw https://erf.reporting.conwy.gov.uk/cy

Meddai Geraint Edwards, Pennaeth Gwasanaeth yr AFfCh, wrth siarad am Rhowch wybod i ni cyn y lansiad heddiw:

“Rydw i’n edrych ymlaen at lansio Rhowch wybod i ni i’r cyhoedd. Mae’n ffordd newydd a chlyfar o weithio gyda'r cyhoedd ac yn golygu y gellir nodi lleoliadau pryderon ac ati yn fwy cywir. Mae ein staff wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu Rhowch wybod i ni ac wedi ei redeg yn llwyddiannus mewn modd Beta ers sawl wythnos. Bydd Rhowch wybod i ni yn gwella’r ffordd y cyfathrebir â’r cyhoedd oherwydd y byddan nhw’n gallu gweld cynnydd eu cais a derbyn diweddariadau e-bost awtomatig pan fydd swyddogion yn cofnodi gwybodaeth."

 

end content