Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Prynu Cartref Gwag

Prynu Cartref Gwag


Summary (optional)
Gall prynu cartref gwag weithiau fod yn ffordd dda i brynu i mewn i berchnogaeth tŷ, ond gan fod stori i bob cartref gwag, mae dod o hyd i un i’w brynu (ac yna talu amdano) yn aml yn gallu bod yn broses hir a chymhleth.
start content

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo gwag ac nid ydych yn siŵr pwy sy’n berchen arno, gallwch gysylltu â'n tîm. Mewn rhai achosion gallwn gyfryngu rhyngoch chi â’r perchennog yn gyfrinachol. Fedrwn ni ddim rhoi rhestr o eiddo gwag na gwybodaeth i chi ynghylch eu perchnogion.

Sut i ddod o hyd i eiddo gwag

  • Arolwg ar-droed – Chwiliwch am eiddo sy’n ymddangos yn wag yn yr ardal rydych yn dymuno prynu ynddi. Sylwch nad yw pob eiddo sy’n edrych yn flêr ac wedi’u gadael mewn gwirionedd yn wag.
  • Gwerthwyr Tai a Thai Ocsiwn – Bydd gwerthwyr tai yn gallu dweud wrthych pa eiddo sy’n wag. Mae gan wefannau ocsiwn restr o eiddo i’w arwerthu ac fe allent nodi eiddo gwag.  Defnyddir arwerthiannau i werthu eiddo sydd wedi’i ailfeddiannu gan fenthycwyr.
  • Gwefannau - Mae rhai gwefannau yn hysbysebu tir ar werth i adeiladu arno, yn aml gydag eiddo gwag arno’n barod:


Cais cyhoeddus ar gyfer Gwaredu (PROD)

Mae hwn yn rhan anadnabyddus o ddeddfwriaeth Deddf Llywodraeth Leol a Thir Cynllunio 1980. Mae PROD yn caniatáu i unigolyn i annog perchennog tir cyhoeddus i gymryd camau dros dir diffaith o eiddo cyhoeddus neu hyd yn oed yn cael eu gorfodi i’w roi ar werth.

Dod o hyd i'r perchennog

Weithiau mae’n anodd dod o hyd i bwy sy'n berchen ar eiddo gwag gan nad yw pob eiddo wedi eu cofrestru â'r Gofrestrfa Tir neu Dreth y Cyngor. Dyma ddulliau eraill y gallech eu defnyddio i ddod o hyd i berchennog eiddo gwag.

  • Weithiau bydd cymdogion yn gwybod pwy yw perchennog yr eiddo gwag. Os eglurwch wrthynt eich rheswm dros holi yna efallai y byddant yn hapus i helpu.
  • Am ffi fechan, gallwch edrych ar y gofrestr teitlau ar gyfer unrhyw eiddo sydd ar y Gofrestrfa Dir. Mae hyn yn nodi gwybodaeth ddefnyddiol, fel pwy yw'r perchennog, cyfamodau cyfyngu, ffioedd, ac ati. Efallai y bydd y gofrestr hefyd yn cynnwys cyfeiriad cyfredol y perchennog.
  • Os ydych yn gwybod enw’r perchennog, efallai y gallech eu holrhain trwy lyfrau ffôn, cofnodion genedigaeth a marwolaeth, neu trwy’r Gofrestr Etholiadol.


Gallech hefyd edrych ar y gwefannau canlynol:


Cyn i chi benderfynu prynu unrhyw eiddo, mae angen i chi ystyried y canlynol:

  • Faint yw gwerth yr eiddo nawr?
  • Faint fyddai gwerth yr eiddo ar ôl ei adnewyddu?
  • Faint fyddai cost adnewyddu’r eiddo?
  • Os byddwch yn dewis ei rentu, faint o incwm rhent y gallwch ei ddisgwyl ohono?

Os ydych yn bwriadu rhentu'r eiddo i denant a heb fod yn landlord o’r blaen gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar ein tudalen Rhentu cartref gwag

Gallech ofyn am gyngor gan werthwyr tai lleol a syrfëwr ynghylch gwerth yr eiddo rŵan ac ar ôl i chi ei adnewyddu.

Morgeisi

Gall fod yn anodd cael morgais ar eiddo sydd mewn cyflwr gwael. Os ydych am wneud cais am forgais ar gyfer prynu yn ogystal ag adnewyddu eiddo, gallech fod yn gofyn am fwy na’i werth yn ei gyflwr presennol. O safbwynt y benthyciwr, byddai hyn yn risg uchel oherwydd, pe na bai’r morgais neu fenthyciad yn cael ei ad-dalu, efallai na fydd yr eiddo’n ddigon o werth i ad-dalu’r ddyled. 

Mae'r Asiantaeth Tai Gwag yn rhestru'r canlynol fel rhai o'r benthycwyr sydd â chynnyrch morgais sy’n addas ar gyfer prynu eiddo gwag.

  • The Ecology Building Society
  • Buildstore
  • The Co-operative Bank


I gael gwybodaeth a chyngor ar ddod o hyd i fenthyciwr, cysylltwch â'r Cyngor Benthycwyr Morgeisi.

TAW

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib manteisio ar gyfradd ostyngol o Dreth Ar Werth er mwyn adnewyddu eiddo gwag.

end content