Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Gosod Cartref Gwag

Gosod Cartref Gwag


Summary (optional)
Os ydych yn berchen ar eiddo gwag, ond ddim yn dymuno’i werthu, yna mae’n gwneud synnwyr i’w osod. Nid yn unig y byddai hynny’n rhoi cartref i rywun sydd ei angen, ond byddai hefyd yn cynhyrchu incwm i chi fel perchennog.
start content

Cyn gosod eiddo

Dylech hefyd ystyried os yw eich eiddo yn cyrraedd y safon iechyd a diogelwch sy’n ofynnol ar gyfer ei osod drwy ddilyn y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai: canllaw i landlordiaid a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud ag eiddo - GOV.UK (www.gov.uk). Gall ein swyddogion Tai a Llygredd eich helpu gydag unrhyw ymholiadau o ran y safon hon.

  • Rhydd-ddeiliad - os ydych yn ystyried gosod fflat prydlesol
  • Adran Gynllunio’r Cyngor – os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau strwythurol i'r eiddo, neu newid ei ddefnydd
  • Adran Tai ai Llygredd y Cyngor - a fydd yn cynghori ar y safon sy’n rhaid i’r eiddo ei fodloni er mwyn ei osod
  • Adran Treth y Cyngor
  • Cwmni Yswiriant Eiddo
  • Swyddfa dreth, cyfrifydd neu gynghorydd ariannol



Os ydych yn berchen ar eiddo gwag, ond ddim yn dymuno’i werthu, yna mae’n gwneud synnwyr i’w rentu. Nid yn unig y byddai hynny’n rhoi cartref i rywun sydd ei angen, ond byddai hefyd yn cynhyrchu incwm i chi fel perchennog.

Mae nifer o opsiynau ar gael.

Drwy asiantaeth gosod tai

Mae nifer o asiantaethau gosod tai preifat sy’n darparu gwasanaethau yng Nghonwy ac ar y cyfan maen nhw’n gallu cynghori ar renti’r farchnad, safonau eiddo, canfod ac asesu tenantiaid posibl, drafftio cytundebau tenantiaeth a rheoli eiddo. Fel gyda phob sefydliad, mae asiantaethau gosod tai yn gweithredu i safonau gwahanol, felly sicrhewch eich bod yn gwneud ymholiadau priodol i fodloni eich hun o ran beth fyddant yn ei gynnig cyn i chi fynd i gytundeb gyda nhw. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr llety ag enw da wedi’u cofrestru gydag un neu fwy o’r canlynol:

Cynllun Gosod Eiddo Cenedlaethol Cymeradwy

  • Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl
  • Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig – sydd â chanllaw ar osod eiddo a dewis asiant hefyd

Gosod trwy Gymdeithas Tai

Mae gan rai Cymdeithasau Tai ddiddordeb mewn gosod a rheoli eiddo preifat. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan HAWS (http://www.haws.org.uk/cy/gwasanaethau/).

Gosod tŷ eich hun

Mae’n rhaid i chi ddilyn rheolau penodol pan fyddwch yn rhoi tenantiaeth a bydd gennych lawer o rwymedigaethau fel landlord.   Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r rhain ac yn gwybod y diweddaraf am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth a all effeithio arnoch chi neu’r eiddo yr ydych yn ei rhentu.  Gallwch ymuno â sefydliadau Landlordiaid, tanysgrifio i wefannau ar gyfer landlordiaid neu gadw llygad ar wefannau sy’n rhoi gwybodaeth fel:


Bydd angen i chi fod yn ‘drwyddedig’ gyda Rhentu Doeth Cymru os ydych yn bwriadu rheoli eich tenantiaeth eich hunan.  Mae’n rhaid i bob eiddo rhent fod wedi ‘cofrestru’ â Rhentu Doeth Cymru.

I gael rhagor o gyngor ar rentu eiddo gwag, gallwch gysylltu â ni neu ewch ar ein Tudalennau i Landlordiaid - Gwybodaeth i Landlordiaid - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Rhentu Doeth Cymru

Ers 23 Tachwedd 2015, mae gofyn i bob Landlord yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Yn ychwanegol at hyn, os yw landlord yn gosod neu’n rheoli eiddo, mae’n rhaid iddynt gael trwydded. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Tai ar:

E-bost: taigwag@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574235

Ysgrifennwch atom ni

Y Strategaeth Tai
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GL.
end content