Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol o 6pm ar 7/12/17 yn effeithio ar ein gwasanaethau rhyngrwyd, gan gynnwys gwefannau ac e-bost.
Cartref Preswylwyr Tai Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Sipsiwn a Theithwyr: Dileu Mythau

Sipsiwn a Theithwyr: Dileu Mythau


Summary (optional)
Pwy yw Sipsiwn a Theithwyr?
start content

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn diffinio sipsiwn a theithwyr fel a ganlyn:

a)  Personau sy'n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo'u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys:-

i) Personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi'r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a ii)  Aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy'n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o'r fath ai peidio), a

b)  Unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Pwy yw Sipsiwn Romani?

Mae Sipsiwn Romani yn cynnwys Sipsiwn Saesnig, Cymreig ac Albanaidd a Sipsiwn Romani Ewropeaidd. O'r holl sipsiwn a theithwyr, y Sipsiwn Romani ydi'r hynaf ac mae modd olrhain eu hanes dros fil o flynyddoedd yn ôl i Ogledd India. Enw eu hiaith ydi Romani/ Rom.

Pwy yw Teithwyr Gwyddelig?

Daw'r cofnod cynharaf o Deithwyr Gwyddelig o'r wythfed ganrif lle disgrifir teithwyr sy'n weithwyr metel ac sy'n atgyweirio offer y tŷ. Enw eu hiaith ydi Cant neu Gammon, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n Gatholigion ac yn dewis anfon eu plant i ysgolion Catholig.

Mae gan sipsiwn ddiwylliant, iaith a chred a rennir, ac maen nhw'n cael eu cydnabod fel grwpiau lleiafrifoedd ethnig dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Yn ogystal, mae gan bob sefydliad yn y sector cyhoeddus ddyletswydd gadarnhaol dan y gyfraith i ddileu gwahaniaethu hiliol a hyrwyddo cyfle cyfartal, sy'n cynnwys sipsiwn a theithwyr Gwyddelig.

Ydi pob sipsi a theithiwr Gwyddelig yn Teithio?

  • Mae cyfraith cynllunio yn diffinio sipsiwn a theithwyr Gwyddelig fel pobl sydd â ffordd o fyw teithiol. Er bod hyn yn wir yn hanesyddol, mae 90% o sipsiwn a theithwyr Gwyddelig y byd bellach yn byw mewn tai. Pan fydd sipsiwn a theithwyr yn byw mewn tai mae eu diwylliant a'u treftadaeth yn aros efo nhw, does dim rhaid i chi deithio i fod yn deithiwr.
  • Mae rhai grwpiau yn teithio'n aml, gan symud ymlaen pan fydd cyfleoedd gwaith yn codi mewn ardal arall. Mae eraill ar y llaw arall yn byw yn barhaol mewn un ardal neu'n teithio am ychydig wythnosau neu fisoedd o'r flwyddyn. 
  • Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd sipsiwn a theithwyr yn byw o fewn cymunedau clos, boed mewn tai neu ar safleoedd carafannau, gyda chysylltiadau teulu a chymdeithasol cryf. Mae sipsiwn a theithwyr bellach yn defnyddio cerbydau a charafanau modern o ansawdd da. 
  • Y prif reswm dros deithio yw gwaith, i ddilyn ffeiriau ac i ymweld â theulu.

Roeddwn i'n meddwl mai pwrpas bod yn sipsi neu deithiwr oedd teithio? Pam bod arnyn nhw angen safleoedd parhaol?

Er bod sipsiwn a theithwyr yn teithio ar rai adegau o'r flwyddyn, yn ystod misoedd y gaeaf mae'r rhan fwyaf o bobl angen lle i aros.

  • Mae patrymau teithio yn gysylltiedig â'r tymhorau a gwaith tymhorol. Dydi sipsiwn a theithwyr ddim yn teithio pob dydd, drwy gydol y flwyddyn. Mae ar deuluoedd angen mannau diogel a sefydlog er mwyn teithio. Fel arfer bydd y safle sefydlog (os oes ganddyn nhw un) yn fan lle maen nhw'n gallu cael mynediad at feddygon teulu, ysgolion a deintyddion.
  • Wrth i sipsiwn a theithwyr heneiddio gan fethu teithio'n rheolaidd, bydd arnyn nhw angen lle diogel i aros a chynnal eu traddodiadau diwylliannol. Mae sipsiwn a theithwyr weithiau'n rhoi'r gorau i deithio am gyfnodau o amser i ofalu am berthnasau sâl neu oedrannus, neu i barhau ag addysg plentyn mewn amgylchedd ysgol cefnogol. Ar ôl cyfnodau o'r fath, bydd teuluoedd yn dychwelyd i deithio. 

Pam bod sipsiwn a theithwyr yn aros ar ochr y ffordd?

Does yna ddim digon o lefydd awdurdodedig iddyn nhw aros; efallai bod sipsiwn neu deithwyr yn mynd i briodas neu angladd yn yr ardal, neu efallai eu bod ar eu ffordd i Ffair Geffylau ac angen rhywle i orffwyso am ychydig. Rydym ni'n galw'r mannau yma yn wersylloedd diawdurdod. Mae'r Llywodraeth yn eu diffinio fel "gwersylloedd carafannau a/neu gerbydau eraill ar dir heb ganiatâd y tirfeddiannwr"; mae tresmasu yn dramgwydd sifil yn hytrach na thramgwydd troseddol. Yn genedlaethol, mae 21% o'r holl sipsiwn a theithwyr Gwyddelig sy'n byw mewn carafannau yn ddigartref; hynny ydi, does ganddyn nhw ddim man cyfreithiol i barcio eu carafán. Un peth a fyddai'n datrys y broblem hon fyddai darparu safleoedd parhaol a safleoedd dros dro (ar gyfer arosiadau byr. Mae safleoedd o'r fath fel arfer yn safleoedd parhaol, ond mae terfyn ar faint o amser y gall preswylwyr aros).

Pam fod yn rhaid i'r cyngor wneud darpariaeth ar gyfer safleoedd sipsiwn a theithwyr?

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i gynnal asesiadau anghenion tai ar gyfer y boblogaeth sefydlog er mwyn nodi eu hanghenion llety. Mae'r anghenion hyn yn cael eu bwydo i mewn i'r fframwaith cynllunio lleol a bydd y Cyngor yn mynd i'r afael â'r angen am dai trwy ddarparu gwahanol fathau o lety fel fflatiau, tai neu lety cysgodol. Mae hyn bellach yn wir am lety Sipsiwn a Theithwyr, sy'n fath arall o ddarpariaeth sy'n ystyried gwahanol ffyrdd o fyw pobl.  

Dan ofynion Deddf Tai 2014 a Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 30/2007 'Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafannau Sipsiwn a Theithwyr' mae ar bob awdurdod lleol yng Nghymru angen nodi anghenion tai sipsiwn a theithwyr yn ei ardal a darparu ar gyfer unrhyw angen a nodwyd. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle mae angen wedi ei nodi. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gwblhau Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr, sy'n nodi gofynion lleiniau. Does yna ddim safle Sipsiwn a Theithwyr swyddogol ym Mwrdeistref Sirol Conwy, a gall methu darparu safle o'r fath arwain at gynnydd yn y gwersylloedd diawdurdod a chaniatâd cynllunio posibl yn cael eu rhoi ar ôl apêl ar gyfer safleoedd mewn lleoliadau anaddas. Yn seiliedig ar ganfyddiadau Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru, mae'n ofynnol i Fwrdeistref Sirol Conwy ddarparu 3 llain breswyl erbyn 2016. Rhagwelir y bydd yr angen yn cynyddu 3% pob blwyddyn. Yn ogystal, nododd yr asesiad bod angen darparu 7 llain dros dro erbyn 2016, ger ffin Conwy a Sir Ddinbych os yn bosibl.

Pwy fydd yn talu am hyn?

Mae dau opsiwn:

  • Darpariaeth gyhoeddus - drwy gydnabod pwysigrwydd darparu safleoedd mae modd gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian i gwrdd â chostau datblygu safleoedd newydd ac adnewyddu safleoedd presennol; mae hon yn broses debyg i ariannu tai fforddiadwy ar gyfer y boblogaeth sefydlog.
  • Darpariaeth breifat - byddai tir yn cael ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ei brynu neu ei reoli gan unigolion i ddiwallu eu hanghenion teuluol. Fodd bynnag, dydi pob sipsi a theithiwr ddim yn gallu fforddio prynu a datblygu tir. 

 Ydi sipsiwn a theithwyr yn talu treth a rhent?

  • Mae sipsiwn a theithwyr sy'n byw ar safleoedd awdurdod lleol neu safleoedd preifat yn talu treth y cyngor, rhent, biliau nwy, trydan a gwasanaethau eraill yn yr un ffordd ag aelwydydd sefydlog.
  • Ar y cyfan, dydi'r rheiny sy'n byw ar wersylloedd diawdurdod ddim yn talu treth y cyngor, ond dydyn nhw ddim fel arfer yn derbyn gwasanaethau. Mae yna adegau pan fydd gwasanaethau sylfaenol, fel toiledau neu finiau olwyn, yn cael eu darparu ac efallai y bydd sipsiwn a theithwyr yn talu am y rhain yn uniongyrchol i'r awdurdod lleol priodol.
  • Mae holl breswylwyr y Deyrnas Unedig yn talu trethi wrth brynu nwyddau ac yn talu treth petrol a ffyrdd, felly hefyd sipsiwn a theithwyr.

A fydd safleoedd sipsiwn gerllaw yn cynyddu lefelau troseddu?

Does dim tystiolaeth yn unrhyw le i awgrymu bod hyn yn wir. Mae troseddau yn cael eu cyflawni gan unigolion, nid cymunedau. Does dim tystiolaeth o gwbl bod nifer anghymesur o droseddwyr o fewn cymunedau sipsiwn a theithwyr o gymharu â chymunedau eraill. Mae gwasanaeth yr heddlu wedi dysgu o brofiad bod creu stereoteipiau sy'n cysylltu troseddau penodol gyda grwpiau ethnig neu gymdeithasol yn anghywir.

Yn Swydd Caer, er enghraifft, mae plismona yn y gymdogaeth a phenodi Swyddogion Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr wedi helpu i feithrin mwy o ymddiriedaeth. Mae llawer o deithwyr yn dychwelyd i'r un safleoedd flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn dod i adnabod swyddogion a phobl leol. Mae llawer llai o achosion o wersylloedd diawdurdod yn y sir o gymharu â phum neu ddeng mlynedd yn ôl. (Heddlu Swydd Caer 2011)

Beth mae Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei wneud?

  • Mae Cynllun datblygu lleol mabwysiedig Conwy yn cynnwys ymrwymiad gan y Cyngor i nodi a cheisio caniatâd cynllunio ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr addas yn y Fwrdeistref Sirol ac yn cynnwys amserlen ar gyfer y broses.
  • Yn 2016 cafodd safle preswyl newydd yn cynnwys pedair llain ei ddatblygu yn Bangor Road, Conwy.
  • Mae GTAA (Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr) wedi’i gymeradwyo gan Llywodraeth Cymru ac mae’n nodi angen safle Tramwy ar gyfer 7 llain yng Nghonwy.
  • Mae'r gwaith wedi golygu ymgynghori â gwahanol Adrannau'r Cyngor ac awdurdodau statudol ar addasrwydd safleoedd o ran, er enghraifft, mynediad, argaeledd gwasanaethau, ac effaith amgylcheddol.

Efo pwy y dylwn i gysylltu ag o i gael gwybodaeth bellach?:

  • James Harland, Rheolwr Polisi Cynllunio Strategol (01492) 575180
  • Wendy Dearden, Rheolwr Strategaeth Tai (01492) 574179
end content

Dod o hyd i'ch ysgolion, ysbytai, gwasanaethau cyngor agosaf a mwy