Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Digartrefedd Ydw i'n ddigartref?

Ydw i'n ddigartref?


Summary (optional)
start content

Yn gyfreithiol, rydych yn ddigartref os:

  • Nad oes gennych rywle i fyw yn y wlad hon neu mewn unrhyw le arall yn y byd sydd ar gael i chi fod yno
  • Nad oes gennych unrhyw hawl gyfreithiol i aros yn eich cartref
  • Oes gennych rywle i fyw ond eich bod yn methu mynd i mewn i'r eiddo
  • Oes gennych rhywle i fyw ond nid yw'n rhesymol i chi aros yno, er enghraifft, mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at yr unigolyn neu aelod o’u haelwyd, yn destun camdriniaeth
  • Oes gennych gwch, carafán neu gartref symudol ond heb unrhyw le i’w gadw

Gallwch hefyd wneud cais am gyngor a chymorth os yw'n debygol y byddwch yn ddigartref yn y 56 diwrnod nesaf. Gall hyn fod oherwydd eich bod: 

  • Wedi eich galw i’r Llys a bod y Llys yn dweud fod rhaid i chi adael eich eiddo o fewn y 56 diwrnod nesaf
  • Wedi bod yn byw gyda theulu neu ffrindiau a’u bod wedi gofyn i chi adael o fewn y 56 diwrnod nesaf


Byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i aros yn eich cartref. Os nad yw hyn yn bosib', byddwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i lety newydd.

  • Rhif ffôn: 0300 456 9545
  • Cyfeiriad e-bost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
  • Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
  • Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 1233079
  • Gallwch hefyd gyflwyno ymholiad i’r tîm yn defnyddio ein ffurflen ar-lein.

 

 

end content