Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Gwelliannau Tai Benthyciadau Gwella Cartrefi

Benthyciadau Gwella Cartrefi


Summary (optional)
start content

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau newydd ar gyfer y cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi. Os ydych am i ni gysylltu â chi pan fyddwn yn cychwyn derbyn ceisiadau, cysylltwch â ni.

Mae’r Benthyciad Gwella Cartrefi yn fenthyciad di-log ar gyfer perchnogion sy’n ddeiliaid, landlordiaid, elusennau a datblygwyr. Mae angen i’r gwaith sy’n cael ei gynnal wneud yr eiddo’n gynnes, yn saff a/neu'n ddiogel.

Isafswm y benthyciad yw £1,000, a’r uchafswm yw £35,000 yr uned. Mae’r holl fenthyciadau yn cael eu sicrhau fel arwystl cyntaf neu ail arwystl yn erbyn y tir ar y Gofrestrfa Tir.

Bydd ffi weinyddol o £500.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar daflen y Cynllun isod, gan gynnwys y broses ymgeisio.

Nodwch bod y benthyciad yn amodol, ac ni ellir sicrhau cynnig benthyciad hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol.

Cysylltwch â ni

end content