Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Opsiynau Tai Beth yw tai canolradd fforddiadwy?

Beth yw tai canolradd fforddiadwy?


Summary (optional)
start content

Beth yw tai canolradd?

Mae tai canolradd yn helpu pobl gael tai fforddiadwy pan nad oes modd iddynt ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt yn  sector preifat..

Am fod gan aelwydydd wahanol amgylchiadau a lefelau incwm amrywiol, mae cynlluniau tai fforddiadwy yn cynnig amrediad o ddewisiadau.

Mae yna ddau fath o dŷ canolradd ar gael:

Tai rhent canolradd

Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n berchen ar, ac sy’n gosod tai rhent canolradd. Caiff y tai eu rheoli a’u cynnal yn yr un modd â thai rhent cymdeithasol, ond gellir codi rhent uwch (hyd at 80% o rent y farchnad agored).

Mae dewis rhent canolradd ar gyfer aelwydydd sydd ag incwm rhwng £16,000 a £45,000 ac na allant fforddio eiddo ar y farchnad agored. Nid oed rhaid I aelwydydd fod mewn cyflogaeth.

Perchnogaeth Tai Canolradd

Mae nifer o wahanol fathau o gynlluniau perchnogaeth tai canolradd ar gael os ydych chi’n dymuno berchen ar eich tŷ eich hun. Ewch i wefan Tai Teg am ragor o wybodaeth ar y math o gynlluniau tai canolradd sydd ar gael.

Ydych chi’n gymwys?

I ddarganfod a ydych chi’n gymwys i wneud cais am berchnogaeth tai canolradd, ewch i wefan Tai Teg.

Gwneud cais am dŷ canolradd

Os ydych chi eisiau gwneud cais am dŷ canolradd, mae’n rhaid i chi gofrestru i fod ar ein cofrestr tai fforddiadwy.

Cyflenwad tai fforddiadwy

Mae cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor. Rydym am i bobl yng Nghonwy gael mynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywydau.

Rydym yn helpu i ddarparu tai fforddiadwy drwy:

  • Rheoli cynllun datblygu rhaglen tai fforddiadwy Conwy
  • Gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynllunio i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy yn rhan o ddatblygiadau newydd
  • Cyflenwi llety / lleiniau i sipsiwn a theithwyr mewn lleoliadau priodol


Sut gwyddom ni beth yw’r angen am dai fforddiadwy?

Rydym wedi cynnal ‘Asesiad o’r Farchnad Dai Leol’ sy’n ein helpu i ddeall yr angen am dai yn lleol. Rhoddodd yr asesiad y wybodaeth i ni ddatblygu ein Strategaeth Tai Lleol, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer mynd i’r afael â materion yn ymwneud â thai yng Nghonwy dros y pum mlynedd nesaf.

 

end content