Gall eich gardd chi gael ei defnyddio fel lle arderchog i gynorthwyo Bioamrywiaeth.
Mae llai o gyfleoedd i fywyd gwyllt ffynnu yn ein cefn gwlad ni erbyn hyn. Digwyddodd hynny am fod llai o gynefinoedd addas i fywyd gwyllt, a llai o fwyd ar gael iddynt.
Trwy arddio mewn ffordd arbennig, gallwn ddarparu’r cynefinoedd a bwyd mae rywfaint o’r bywyd gwyllt hwn ei angen. Cafodd y math yma o arddio ei alw yn arddio bywyd gwyllt. Gellir garddio bywyd gwyllt ar unrhyw lefel, gan ddechrau trwy ddim ond blannu ychydig o fathau a rhywogaethau o blanhigion sy’n cynhyrchu llawer o neithdar yn eich borderi ffurfiol, neu fynd ymhellach trwy wneud compost efo’r gwastraff o’ch gardd, peidio defnyddio unrhyw blaleiddiaid neu greu dôl bywyd gwyllt. Mae dros 100,000 erw o dir gardd yng Nghymru, felly mae’n yn gynefin sylweddol a gall pob gardd unigol wneud gwahaniaeth os byddant wedi’u cyfuno efo’i gilydd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy nawr yn bartner yng Ngarddio Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Prif nod y bartneriaeth honno ydi hyrwyddo garddio ar gyfer bywyd gwyllt yn ardaloedd Eryri, Conwy a Gwynedd. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff statudol, sefydliadau academaidd, aelodau o’r proffesiwn garddwriaeth, cyrff gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Bydd yn rhedeg y gystadleuaeth “Gardd Bywyd Gwyllt Orau”, sydd efo categorïau ar gyfer gerddi preifat, ysgolion, busnesau (fel gerddi tafarnau, tir o gwmpas swyddfeydd) a grwpiau cymunedol (fel Sefydliad y Merched, sgowtiaid a’r “brownies”).
Mae’r bartneriaeth hefyd wedi cynhyrchu’r pecyn gwybodaeth a thaflen, sydd ar gael yn ddi-dâl oddi wrth y Swyddog Garddio Bywyd Gwyllt 01248 360981.